Arweiniad i ddylunio clytiau wedi'u brodio, gan ddefnyddio meddalwedd TurtleStitch.
Gall dysgwyr naill ai glicio ar y botwm 'dechrau arni' i weithio drwy'r adnodd yn y drefn a argymhellir gennym, neu ddewis adran i neidio iddi o'r mynegai.
Ar gyfer y gweithgaredd hwn, byddwn yn defnyddio meddalwedd ar-lein o'r enw TurtleStitch. Nid oes angen i chi fewngofnodi, creu cyfrif na gosod unrhyw feddalwedd.
Dyma'r sgrin fel y bydd yn ymddangos pan fyddwch yn llwytho TurtleStitch am y tro cyntaf::
Mae dewislen o flociau cyfarwyddiadau i'w gweld ar y chwith, gyda gwahanol gategorïau i ddewis o'u plith - 'Motion', 'Sensing', 'Pen', 'Embroidery', 'Control', 'Operators', 'Variables', 'Colors' ac 'Other'.
Mae grid ar y dde, gydag eicon môr-grwban yn y canol. Dyma lle gallwn redeg ein rhaglen i gynhyrchu llun. Mae rhai eiconau lliw uwchben y grid: y faner werdd a fydd yn dechrau'r rhaglen, symbol melyn i oedi'r efelychiad, ac octagon coch i'w stopio. Mae rhai opsiynau gweld ac allforio dan y grid.
Yr ardal wag fawr ynghanol y sgrin yw'r man lle byddwn yn creu ein rhaglenni, drwy lusgo'r blociau cyfarwyddiadau o'r chwith i mewn iddo.
Gadewch i ni gymryd y cam cyntaf tuag at ddod yn gyfarwydd â'r feddalwedd hon, drwy ystyried sut mae tynnu llun sgwâr.
Dylai eich rhaglen edrych yn debyg i hyn:
Yn awr, gallwn redeg y rhaglen drwy glicio ar eicon y faner werdd uwchben y man lle mae'r efelychiad.
Bydd y môr-grwban yn symud, a bydd llun sgwâr bach iawn yn cael ei dynnu ar y grid. Os edrychwch chi ar y wybodaeth sydd dan yr efelychiad, fe welwch chi faint o bwythau sydd eu hangen ar gyfer y sgwâr hwn a pha mor fawr ydyw (4 pwyth a 0.2 x 0.2 cm).
I gynhyrchu sgwâr mwy o faint, bydd angen i ni newid y rhif yn y gorchymyn 'move 10 steps' i rif uwch (1 cam = 0.02 cm, felly 50 cam = 1 cm).
Wrth i ni roi prawf ar ein rhaglenni a'u gwirio yn yr efelychydd, mae'n bosibl y byddwch wedi sylwi na chaiff y lluniadau blaenorol eu dileu.
I ddileu ymdrechion/lluniau cynharach, bydd angen i ni ychwanegu cyfarwyddiadau clirio ac ailosod yn ein rhaglen.
Dilynwch y camau isod i greu rhaglen ar wahân y gallwn ei chychwyn drwy bwyso'r bylchwr. Fel arall, gallwch roi'r un dilyniant o gyfarwyddiadau (neu ddefnyddio'r bloc ailosod) ar ddechrau eich rhaglen 'when ⚑ clicked'.
Dylai'r rhaglen newydd hon edrych yn debyg i hyn:
Yn awr, gallwn glirio ein holl luniadau blaenorol o'r sgrin drwy bwyso'r bylchwr ar ein bysellfwrdd.
Gallwn newid y rhaglen a grëwyd gennym ar gyfer tynnu llun sgwâr i gynhyrchu unrhyw bolygon rheolaidd.
Dyma rai enghreifftiau:
Gallem fabwysiadu'r rhaglen a ddefnyddiwyd ar gyfer y polygonau rheolaidd (siapiau y mae hyd eu hochrau'n gyfartal) i greu effaith cylch:
Fodd bynnag, mae'n broses arafach a fydd yn gofyn am fwy o bwythau nag sydd eu hangen mewn gwirionedd i greu cylch. Yn lle hynny, mae'r ddewislen 'Motion' yn cynnwys bloc y gallwn ei ddefnyddio i dynnu llun cylch, sy'n golygu ei fod yn siâp symlach i'w greu na'r polygonau yr ydym wedi'u hystyried yn barod.
Dyma enghraifft o raglen y bwriedir iddi dynnu llun cylch pan gychwynnir yr efelychiad.
Gallwch addasu maint y cylch drwy newid y radiws (y rhif cyntaf) yn y bloc arcau.
Bydd lleihau'r rhif ar gyfer graddau (degrees) yn y cyfarwyddyd hwn yn arwain at linell grom nad yw'n uno i greu cylch.
Mae'r feddalwedd hon yn rhoi i ddylunwyr floc sy'n ein galluogi i gynnwys testun yn ein dyluniadau.
Mae'r bloc hwnnw i'w weld yn y categori 'Motion':
Gallwn newid y gair a'i faint yn y bloc hwn.
PWYSIG: Bydd newid maint y pìn yn effeithio ar yr hyn a welwch yn yr efelychydd, ond ni fydd yn cael ei adlewyrchu wrth drosglwyddo dyluniad i beiriant brodio. Mae rhagor o wybodaeth i'w chael yn y pwnc nesaf.
Hyd yn hyn, rydym wedi bod yn defnyddio TurtleStitch i dynnu lluniau yn yr efelychydd. Mae'n ffordd wych o ddod yn gyfarwydd â sut mae creu gwahanol ddyluniadau, ond ni fyddant o reidrwydd yn cael eu trosglwyddo'n llwyddiannus i beiriant brodio.
Er enghraifft, gallwn ddefnyddio'r bloc tynnu llun testun i greu gair yn yr efelychydd, ond heb unrhyw gyfarwyddiadau eraill mae'n bosibl y bydd peiriant brodio yn methu â chopïo'r llythrennau yn llwyddiannus.
Y Canlyniad:
Pam y digwyddodd hynny?
Wrth ddylunio unrhyw beth ar gyfrifiadur, mae angen i ni ystyried sut y bydd yn cael ei ddefnyddio. Yn yr achos hwn, rydym yn gobeithio atgynhyrchu ein dyluniadau ar ffurf brodwaith. Felly, mae angen i ni gynnwys cyfarwyddiadau perthnasol yn ein rhaglen.
Y tu mewn i'r ddewislen o flociau o'r enw 'Embroidery', fe welwch chi ddetholiad o wahanol fathau o bwythau. Drwy osod unrhyw un o'r rhain ar ddechrau ein rhaglen, byddwn yn rhoi'r arweiniad angenrheidiol i wneud i hyn weithio. Gweler yr enghreifftiau o godau isod, a'r brodwaith a grëwyd o ganlyniad iddynt.
Gallwch ddefnyddio un math o bwyth a gosodiadau ar gyfer y dyluniad cyfan neu raglennu fel bod gwahanol rannau o'r dyluniad yn cael eu pwytho'n wahanol.
Bydd y rhaglen ailosod y gwnaethom ei hargymell mewn adran flaenorol yn rhoi cyfle i chi arbrofi â'r holl wahanol fathau o bwythau a'r gosodiadau sydd y tu mewn i bob un ohonynt.
Mae categori o flociau o'r enw 'Colors' ar gael i ni ei ddefnyddio yn ein dyluniadau.
Cofiwch mai'r unig beth y bydd y rhain yn ei wneud yw gosod y lliwiau fel y maent i'w gweld yn ein hefelychydd. Ni fydd peiriant brodio'n gallu deall pa liw yw'r edau a bydd yn gwnïo â pha bynnag liw a ddarparwyd iddo.
Bydd newid lliw mewn rhaglen yn gwneud i'r peiriant oedi'n syth er mwyn rhoi cyfle i'r defnyddiwr newid yr edau.
Yn awr, gallwn ysgrifennu patrwm brodio llawn i gynhyrchu calon â'r blociau y rhoddwyd sylw iddynt mor belled.
Isod, ceir rhaglen enghreifftiol sy'n defnyddio pwyth satin i gynhyrchu dyluniad syml siâp calon. Mae croeso i chi ddefnyddio a/neu addasu'r dyluniad yn eich rhaglenni eich hun.
Gallwn gymryd y siapiau y rhoddwyd sylw iddynt yn barod a chreu patrymau diddorol drwy eu cylchdroi.
Dyma rai patrymau enghreifftiol:
Sgwariau
Hecsagonau
Cylchoedd
Gadewch i ni ystyried sut mae creu patrymau o'r fath. Ar gyfer y broses hon, byddwn yn cynhyrchu patrwm cylchdroi sy'n cynnwys 6 phentagon o gwmpas canolbwynt.
Gallwch newid y rhaglen hon i ddefnyddio siapiau eraill neu i newid nifer y siapiau sy'n bresennol.
Fel y mae'r rhaglenni ar hyn o bryd, rhaid i ni wneud y fathemateg er mwyn cyfrifo'r onglau troi. Mae yna ffordd o gael y rhaglen i wneud hynny ar ein rhan. Mae rhagor o wybodaeth i'w chael yn y pwnc nesaf.
PWYSIG: Po fwyaf o siapiau y byddwch yn eu cynnwys yn y patrwm hwn, y mwyaf o bwythau y bydd y peiriant brodio'n eu cychwyn o'r un man. Os byddwch yn cynnwys gormod o bwythau, bydd rhybudd yn ymddangos dan yr efelychydd - nid yw'n syniad da parhau i wnïo tra bydd y rhybudd hwn yn berthnasol.
Caiff newidynnau eu defnyddio wrth raglennu i storio gwerthoedd, sy'n ei gwneud yn bosibl i ni eu defnyddio drwy gydol y rhaglen, neu i'w cynnwys mewn cyfrifiadau mathemategol. Y brif fantais yw bod y defnyddiwr yn gallu eu newid ar ddechrau'r rhaglen heb orfod poeni am ddod o hyd i'r holl adegau y cânt eu hailadrodd neu'u defnyddio.
Gallwn greu ac enwi ein newidynnau ein hunain drwy agor y ddewislen 'Variables' a chlicio ar 'Make a variable'. Yna, bydd blwch testun yn cael ei lanlwytho lle gallwch enwi eich newidyn. Bydd hynny'n creu bloc newydd â'r enw hwn yn y ddewislen er mwyn i ni allu clicio arno a'i lusgo i ddisodli rhifau sydd y tu mewn i flociau eraill.
PWYSIG: Ni ddylai enwau newidynnau fyth ddechrau â phriflythyren na chynnwys bylchau.
Gan ddefnyddio un newidyn yn unig (o'r enw shapeSides), gallwn ysgrifennu rhaglen lle gallwn dynnu llun unrhyw bolygon rheolaidd drwy newid un gwerth:
Mae'r rhaglen hon hefyd yn cynnwys bloc gwyrdd newydd:
Mae hwn i'w weld yn y ddewislen 'Operators' ynghyd â chyfarwyddiadau eraill sy'n ymwneud â chyfrifiadau a rhesymeg.
Yn ogystal â lleihau'r angen i'r defnyddiwr gyfrifo onglau ar gyfer unrhyw siâp penodol, mae'r rhaglen hon hefyd yn ein galluogi i gynhyrchu siapiau'n fwy cywir, megis yr heptagon (siâp â 7 ochr) nad ydym wedi rhoi sylw iddo gan nad yw'r onglau angenrheidiol yn rhifau cyfan.
Mae hefyd yn bosibl defnyddio'r newidyn newydd hwn gydag un arall i greu rhaglen gylchdroi lle mae'r defnyddiwr yn pennu nifer yr ochrau sydd gan siâp a sawl gwaith y maent am iddo gael ei gynhyrchu. Yna, bydd y rhaglen yn gwneud y gweddill. Mae croeso i chi roi cynnig arni neu glicio ar y botwm isod i weld/copïo'r rhaglen.
Os hoffech greu dyluniadau o flodau, bydd angen i ni gyfuno popeth yr ydym wedi'i ddysgu ar draws y pynciau mor belled.
Yn gyntaf, gadewch i ni ystyried siâp petal. Gellir creu'r siâp hwn â dwy linell grom neu ddau arc crwm sy'n adlewyrchu ei gilydd.
Gallwn atgynhyrchu hwn yn TurtleStitch drwy ddefnyddio'r adran isod o god y tu mewn i'ch rhaglen.
Gallech ddefnyddio hwn i ddisodli'r cod tynnu llun siâp sydd yn ein rhaglen ar gyfer patrwm cylchdroi. Os ydych wedi cynnwys newidynnau, fel y dangoswyd yn yr adran flaenorol, gallwch ddileu'r blociau 'shapeSides'.
Mor belled, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar ddyluniadau a lunnir o un man cychwyn. Mae'r adran hon yn ystyried sut mae newid y man cychwyn ar gyfer siâp neu destun.
Caiff lleoliad y môr-grwban ei bennu gan ddefnyddio ei gyfesurynnau. Y man cychwyn diofyn yw (0,0) neu x: 0, y: 0. Yr x yw'r lleoliad ar hyd llinellau llorweddol yr efelychydd, a'r y yw'r lleoliad ar y llinellau fertigol.
Rydym wedi defnyddio'r bloc symud 'go to x: 0 y:0' yn ein cod dileu ac ar gyfer tynnu llun calon. Fodd bynnag, yn y ddau achos mae'r môr-grwban yn tynnu llinell wrth iddo deithio i'r lleoliad newydd. Yn y ddewislen 'Pen', ceir blociau o'r enw 'pen up' a 'pen down'. Mae 'pen up' yn atal y pìn rhag tynnu llinell nes ein bod yn defnyddio'r cyfarwyddyd 'pen down' i'w ostwng unwaith eto. Mae hynny'n ein galluogi i symud y môr-grwban heb ychwanegu llinellau nad ydym am eu cael yn ein dyluniad.
Enghraifft:
Mae'r llinell doredig goch ar yr efelychiad yn dangos llwybrau'r nodwydd pan nad yw yn y defnydd.
PWYSIG: Pan fydd y ffeil yn cael ei llwytho ar y peiriant brodio, bydd yn canoli'r dyluniad cyfan yn awtomatig ar eich clwt o ddefnydd.
Wrth i chi roi gwahanol rannau eich dyluniad at ei gilydd, mae'n bosibl y bydd eich rhaglen yn mynd yn hir iawn ac yn anodd ei dilyn. Gallwn ei rhannu gan ddefnyddio swyddogaethau. Set o gyfarwyddiadau yw'r rhain, a gedwir dan un enw y gellir ei ddefnyddio yn eu lle y tu mewn i'r prif raglen.
Wrth i ni ddefnyddio TurtleStitch, gallwn gopïo'r offeryn rhaglennu hwn drwy greu bloc newydd - opsiwn sydd ar gael ar waelod y ddewislen o flociau.
Pan fyddwch yn dewis yr opsiwn hwn, gofynnir i chi am enw i'w roi iddo. Yna, bydd ffenestr yn agor a fydd yn eich galluogi i glicio ar flociau a'u llusgo i mewn i greu'r cyfarwyddiadau ar gyfer eich bloc newydd. Yn awr, bob tro y byddwch yn defnyddio/galw'r bloc newydd hwn, bydd yn rhedeg y cyfarwyddiadau hyn.
Gadewch i ni ddangos i chi. Isod, ceir rhaglen sy'n tynnu llun tair seren sydd yr union yr un fath â'i gilydd ond mewn lleoliadau gwahanol.
Mae'n hir ac mae'n ailadroddus. Yn lle hynny, gallwn gadw'r rhaglen tynnu llun seren y tu mewn i floc newydd:
Yn awr, gallwn ddefnyddio ein bloc newydd ar gyfer seren yn ein rhaglen:
Gallwch hefyd ychwanegu paramedr at eich bloc newydd. Gallai fod yn flwch rhif sy'n galluogi'r defnyddiwr i newid maint y siâp bob tro y mae'n tynnu ei lun. I ychwanegu'r blwch rhif hwn at eich bloc, ewch i 'Block Editor', cliciwch ar y symbol plws sydd i'r dde o deitl eich bloc a dewiswch rif i'w roi yn y blwch.
Y canlyniad:
PWYSIG: I ddefnyddio'r newidyn newydd a grëwyd yn y bloc teitl, cliciwch arno a llusgwch ef oddi yno i leoliadau eraill y caiff ei ddefnyddio ynddynt. Peidiwch â chreu newidyn arall sydd â'r un enw yn y ddewislen.
Pan fyddwch yn fodlon â'ch dyluniad/patrwm, gallwn geisio ei greu gan ddefnyddio peiriant brodio.
Yn gyntaf, bydd angen i ni gynhyrchu ffeil o'r cyfarwyddiadau o TurtleStitch. Ar gyfer y peiriannau a ddefnyddir yn ystod ein gweithdai ni, bydd angen i chi ddewis y botwm 'Export as Tajima/DST' ar y panel sydd ar y dde.
Bydd hynny'n creu copi o'r dyluniad yn ffolder y cyfrifiadur ar gyfer lawrlwythiadau. Bydd angen i chi ei symud i yriant USB.
Yna, gallwch blygio'r ddyfais USB i mewn i'r peiriant brodio lle gallwch ei lwytho.
Pan fydd wedi'i lwytho, fe welwch chi ffenestr sy'n dangos rhagolwg o'r dyluniad a'i leoliad. Mae ambell offeryn golygu ar gael yma, sy'n cynnwys opsiynau lleoli a chwyddo/lleihau.
Ewch drwy'r opsiynau i gadarnhau pob peth, a phan fyddwch yn fodlon pwyswch y botwm dechrau (y botwm sydd wedi goleuo ar y peiriant) a dilynwch y cyfarwyddiadau a roddir ar y sgrin.
PWYSIG: Cadwch eich dwylo i ffwrdd o'r peiriant pan fydd yn gweithio.