Siarcod. Nadroedd. Crocodeilod.
Mae'r anifeiliaid hyn yn aml yn ymddangos mewn ffilmiau, llyfrau a straeon newyddion fel rhai o greaduriaid mwyaf peryglus y byd.
Ond ai'r anifeiliaid sy'n codi ofn arnom ni yw'r rhai sy'n fwyaf tebygol o'n niweidio ni?
Yn y gweithgaredd hwn, byddwch chi'n ymchwilio i gasgliad o greaduriaid o bob rhan o'r byd, yn archwilio'r dystiolaeth, ac yn darganfod a ydy'r ffordd maen nhw'n edrych yn cyd-fynd â'r realiti.
Erbyn diwedd y gweithgaredd, byddwch chi'n creu eich Mynegai Creaduriaid Mwyaf Marwol eich hun ac yn penderfynu pa greaduriaid sydd wir yn haeddu eu lle ar frig y tabl.
Cyn ymchwilio i'r dystiolaeth, dewiswch y tri chreadur sy'n fwyaf peryglus i bobl yn eich barn chi o'r rhestr isod.
Peidiwch â chwilio am unrhyw wybodaeth eto. Defnyddiwch eich greddf.
Siarc
Blaidd
Neidr
Hipopotamws
Corryn
Slefren
Crocodeil / Aligator
Sgorpion
Llew
Arth
Ystyriwch eich dewisiadau. Pam y tri hyn?
Pa greadur ar y rhestr hon sy'n achosi'r nifer mwyaf o farwolaethau pobl bob blwyddyn yn eich barn chi?
Beth wnaeth ddylanwadu ar eich penderfyniad?
Ydych chi'n credu bod creadur mwyaf marwol y byd ar y rhestr hon?
Cyn i chi ddechrau: Mae'r gweithgaredd hwn yn cynnwys delweddau o anifeiliaid, parasitiaid a chreaduriaid eraill a all fod yn annifyr i rai pobl, neu godi ofn arnyn nhw. Cofiwch mai nod y gweithgaredd hwn yw archwilio sut mae ein canfyddiadau o berygl yn cymharu â'r dystiolaeth.
Rydyn ni wedi creu ffeil ffeithiau am yr holl greaduriaid hyn a mwy. Dewiswch anifail i ddysgu mwy.
Dim anifail wedi'i ddewis eto.
Mosgito Gambiae
Anopheles gambiae
Cynefin: Ardaloedd trofannol Affrica, yn enwedig ger dŵr llonydd lle mae larfâu yn datblygu.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Mae'r mosgito hwn yn bwydo ar waed a gall drosglwyddo parasitiaid sy'n achosi clefydau o un person i'r llall.
Oeddech chi'n gwybod? Dim ond mosgitos benywaidd sy'n cnoi pobl oherwydd bod angen maetholion ychwanegol arnyn nhw i gynhyrchu wyau.
Pobl Fodern
Homo sapiens
Cynefin: Maen nhw i'w cael ar bob cyfandir ac ym mhob math o amgylchedd ar y Ddaear fwy neu lai.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Gall pobl niweidio pobl eraill yn fwriadol neu'n ddamweiniol drwy wrthdaro, ymddygiad anniogel, neu drwy ledaenu clefydau.
Oeddech chi'n gwybod? Pobl yw'r unig rywogaeth fyw rydyn ni'n gwybod amdani sydd wedi ymsefydlu'n barhaol ar bob cyfandir, o anialdiroedd a choedwigoedd glaw i'r ardaloedd pegynol.
Gwiber Cennau Llif
Echis carinatus
Cynefin: Glaswelltiroedd sych, anialdiroedd a phrysgdiroedd ar draws Affrica, y Dwyrain Canol a De Asia.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Gall ei fenwm achosi niwed difrifol i feinweoedd y corff ac ymyrryd â gallu tolchennu'r gwaed.
Oeddech chi'n gwybod? Pan mae o dan fygythiad, mae'n rhwbio ei chennau gyda'i gilydd i greu sŵn rhybuddio cras.
Ci Domestig
Canis lupus familiaris
Cynefin: Mae'n byw ochr yn ochr â phobl ar draws y byd.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Gall cŵn achosi anafiadau difrifol drwy gnoi a gallan nhw hefyd gludo clefydau mewn rhannau o'r byd.
Oeddech chi'n gwybod? Roedd cŵn ymhlith yr anifeiliaid cyntaf i gael eu dofi gan bobl.
Malwen Biomphalaria
Biomphalaria glabrata
Cynefin: Cynefinoedd dŵr croyw mewn ardaloedd trofannol, yn enwedig llynnoedd, pyllau ac afonydd sy'n llifo'n araf yn Affrica a De America.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Mae'r malwod dŵr croyw hyn yn chwarae rôl bwysig yng nghylchred bywyd parasitiaid sy'n gallu heintio pobl.
Oeddech chi'n gwybod? Mae'n rhaid i rai parasitiaid dreulio rhan o'u cylchred bywyd y tu mewn i falwen Biomphalaria cyn y gallan nhw heintio eu lletywr nesaf.
Pry Cusan
Rhodnius prolixus
Cynefin: Mae i'w gael ar draws rhannau o wledydd America, yn aml yn cysgodi mewn craciau ac agennau.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Mae'r pryfed hyn yn bwydo ar waed a gallan nhw drosglwyddo parasitiaid sy'n achosi clefydau.
Oeddech chi'n gwybod? Cafodd y pry cusan ei enw am ei fod yn aml yn cnoi pobl o amgylch y geg neu'r llygaid tra eu bod nhw'n cysgu.
Pryf Tsetse y Safana
Glossina morsitans
Cynefin: Glaswelltiroedd a safanau Affrica Is-Sahara.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Mae'n bwydo ar waed a gall drosglwyddo parasitiaid rhwng lletywyr.
Oeddech chi'n gwybod? Mae pryfed tsetse gwrywaidd a benywaidd yn bwydo ar waed.
Heliwr Marwol (Deathstalker)
Leiurus quinquestriatus
Cynefin: Anialdiroedd ac ardaloedd cras yng Ngogledd Affrica a'r Dwyrain Canol.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Gall fenwm ei bigiad effeithio ar y system nerfol ac achosi symptomau difrifol.
Oeddech chi'n gwybod? Dyma un o'r sgorpionau mwyaf fenymig yn y byd.
Llyngyren Fain Fawr Ddynol
Ascaris lumbricoides
Cynefin: Mae'n byw yng ngholuddion pobl ac mae'n fwyaf cyffredin mewn ardaloedd lle gall wyau parasitiaid ledaenu drwy bridd, dŵr neu fwyd wedi'i halogi.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Gall niferoedd mawr o lyngyr ymyrryd â threulio, amsugno maetholion a fwriadwyd ar gyfer eu lletywr, ac weithiau rhwystro rhannau o'r system dreulio.
Oeddech chi'n gwybod? Gall un llyngyren fain fenywaidd gynhyrchu hyd at 200,000 o wyau mewn un diwrnod.
Llyngyren Porc
Taenia solium
Cynefin: Mae'n byw y tu mewn i systemau treulio pobl a moch.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Gall y parasit hwn amsugno maetholion o'i letywr a gall achosi salwch os bydd ei larfâu yn ymledu i rannau eraill o'r corff.
Oeddech chi'n gwybod? Gall llyngyr llawndwf fod yn sawl metr o hyd.
Crocodeil y Nîl
Croocodylus niloticus
Cynefin: Afonydd, llynnoedd a gwlyptiroedd drwy lawer o Affrica.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Ysglyfaethwr cudd-ymosodol â genau pwerus sy'n gallu dal ysglyfaeth fawr wrth ymyl y dŵr.
Oeddech chi'n gwybod? Gall crocodeilod aros o dan y dŵr bron yn llwyr wrth wylio eu hamgylchoedd.
Eliffant Gwylltir Affrica
Loxodonta africana
Cynefin: Safanau, coedwigoedd a glaswelltiroedd ar draws Affrica.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Mae eliffantod yn eithriadol o gryf a gallan nhw ymosod pan fyddan nhw o dan fygythiad neu'n amddiffyn eu hepil.
Oeddech chi'n gwybod? Gallan nhw gyfathrebu drwy ddefnyddio seiniau amledd isel sy'n teithio pellteroedd hir.
Hipopotamws Cyffredin
Hippopotamus amphibius
Cynefin: Afonydd, llynnoedd a gwlyptiroedd ar draws Affrica Is-Sahara.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Mae hipos yn hynod diriogaethol a gallan nhw ymosod ar gyflymder syfrdanol os ydyn nhw'n teimlo eu bod o dan fygythiad.
Oeddech chi'n gwybod? Er eu bod nhw'n ymddangos yn drwm, gall hipos redeg yn gyflymach na'r rhan fwyaf o bobl.
Llew Affrica
Panthera leo
Cynefin: Safanau, glaswelltiroedd a choetiroedd agored yn Affrica.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Mae llewod yn ysglyfaethwyr pwerus sydd â chrafangau miniog, genau cryf ac ymddygiadau hela fel haid.
Oeddech chi'n gwybod? Mae'r llewesau fel arfer yn gwneud y rhan fwyaf o'r hela dros y gnud.
Blaidd Llwyd
Canis lupus
Cynefin: Coedwigoedd, glaswelltiroedd, twndrâu a mynyddoedd ar draws Gogledd America, Ewrop ac Asia.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Mae bleiddiaid yn helwyr cnud medrus sy'n gallu llorio ysglyfaeth lawer mwy na nhw eu hunain. Mae bleiddiaid gwyllt fel arfer yn osgoi pobl ond gallan nhw fod yn beryglus os ydyn nhw o dan fygythiad.
Oeddech chi'n gwybod? Mae cnud o fleiddiaid fel arfer yn cynnwys grŵp teulu sy'n cael ei arwain gan y rhieni a'u hepil.
Arth Fraith
Ursus arctos horribilis
Cynefin: Coedwigoedd, mynyddoedd ac ardaloedd twndra Gogledd America.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Gall ei maint sylweddol, ei chryfder aruthrol a'i hymddygiad amddiffynnol olygu perygl i'r sawl sy'n dod ar ei thraws.
Oeddech chi'n gwybod? Gall eirth brithion redeg yn gyflymach o lawer nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddisgwyl.
Corryn Gwe Twmffat Sydney
Atrax robustus
Cynefin: Coedwigoedd ac ardaloedd trefol o amgylch Sydney, Awstralia.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Mae ei fenwm yn effeithio ar y system nerfol a gall achosi symptomau difrifol heb driniaeth.
Oeddech chi'n gwybod? Yn gyffredinol, mae gwrywod yn cael eu hystyried yn fwy peryglus na benywod.
Gwenynen Fêl y Gorllewin
Apis mellifera
Cynefin: Gwenynen sydd i'w chael ar bob cyfandir heblaw'r Antarctig.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Gall pigiadau gwenyn achosi poen ac, yn achos rhai pobl, adweithiau alergaidd difrifol.
Oeddech chi'n gwybod? Mae gwenynen fêl weithgar yn gallu cyfathrebu lleoliadau bwyd drwy "ddawns siglo" arbennig.
Slefren Focs Awstralia
Chironex fleckeri
Cynefin: Dyfroedd arfordirol cynnes o amgylch gogledd Awstralia a'r ardaloedd cyfagos.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Mae ei thentaclau yn cynnwys fenwm sy'n gallu effeithio ar y galon, y system nerfol a'r croen.
Oeddech chi'n gwybod? Gall un slefren fod â dwsinau o dentaclau, a phob un wedi'i orchuddio â miloedd o gelloedd colyn.
Siarc Mawr Gwyn
Carcharodon carcharias
Cynefin: I'w gael mewn dyfroedd arfordirol ac alltraeth o amgylch y byd, yn enwedig mewn cefnforoedd tymherus ac isdrofannol.
Pam y gall fod yn beryglus i bobl? Mae siarcod mawr gwyn yn ysglyfaethwyr morol mawr â genau pwerus a rhesi o ddannedd miniog sy'n gallu achosi anafiadau difrifol.
Oeddech chi'n gwybod? Gall siarcod mawr gwyn synhwyro signalau trydanol bychan sy'n cael eu cynhyrchu gan anifeiliaid eraill.
Darllenwch Ffeiliau Ffeithiau y gwahanol greaduriaid a gwnewch nodyn o unrhyw beth sy'n eich synnu chi.
Wrth i chi ddarllen, meddyliwch:
Pan fyddwch chi'n barod, ewch yn ôl i'r tri chreadur roeddech chi wedi eu dewis gynt fel y tri mwyaf peryglus i bobl.
Ydych chi'n dal i gytuno â'ch dewisiadau?
Rydych chi bellach wedi archwilio'r dystiolaeth ac efallai hyd yn oed wedi newid rhai o'ch rhagfynegiadau.
Ond mae darn o wybodaeth ar goll o hyd.
Mae'r ffeiliau ffeithiau yn dweud wrthych chi sut gall pob creadur effeithio ar bobl, ond dydyn nhw ddim yn dweud wrthych chi pa mor aml y mae'r effeithiau hyn yn digwydd.
Efallai bod gan greadur ddannedd miniog, fenwm pwerus neu gryfder anhygoel, ond ydy hynny'n awtomatig yn ei wneud yn un o'r creaduriaid mwyaf marwol ar y Ddaear?
I ateb y cwestiwn hwn, mae angen data ar wyddonwyr.
Yn y rhan hon, byddwch chi'n ymchwilio i dystiolaeth o'r byd go iawn am yr effaith y mae gwahanol greaduriaid yn ei chael ar boblogaethau dynol ac yn darganfod a oedd eich rhagfynegiadau yn gywir.
Ai'r creaduriaid mwyaf marwol fydd y rhai roeddech chi'n eu disgwyl?
Mae'n bryd i ni ddarganfod y ffeithiau.
Dyma'r rhestr o'r anifeiliaid eto. Y tro hwn, pan fyddwch chi'n clicio arnyn nhw, byddan nhw'n datgelu eu sgôr yn ein tabl marwolaethau isod.
| Sgôr | Creadur | Amcangyfrif o nifer y Marwolaethau Dynol (2023-2024*) | Prif Achos Marwolaethau: |
|---|---|---|---|
| 1 | Mosgito | 760,000 | Malaria a chlefydau feirysol eraill |
| 2 | Person | 600,000 | Trais a gwrthdaro |
| 3 | Neidr | 100,000 | Cnoadau fenymig |
| 4 | Ci | 40,000 | Heintio â feirws y Gynddaredd |
| 5 | Malwen Dŵr Croyw | 14,000 | Clefyd llyngyren ledog barasitig |
| 6 | Chwilen Lofruddiog | 8,000 | Parasit clefyd Chagas |
| 7 | Llyngyren Fain | 4,000 | Heintiau a rhwystrau coluddol |
| 8 | Sgorpion | 3,000 | Pigiadau fenymig |
| 9 | Llyngyren | 2,000 | Heintiau cystiau meinweoedd a'r ymennydd |
| 10 | Pryf Tsetse | 1,500 | Parasit salwch cysgu |
| 11 | Crocodeil / Aligator | 1,000 | Cudd-ymosodiadau |
| 11 | Eliffant | 1,000 | Sathru a gwrthdaro |
| 13 | Hipopotamws | 500 | Ymosodiadau tiriogaethol amddiffynnol |
| 13 | Gwenyn / Gwenyn Meirch / Cacwn | 500 | Adweithiau alergaidd difrifol |
| 15 | Llew | 300 | Ymosodiadau ysglyfaethu a thiriogaethol |
| 16 | Slefren | 100 | Pigiadau fenymig |
| 17 | Corryn | 50 | Cnoadau fenymig |
| 18 | Arth | 20 | Ergydion a llarpio amddiffynnol |
| 19 | Siarc | 6 | Cnoadau archwiliol |
| 20 | Blaidd | 5 | Ymosodiadau cnud neu amddiffynnol |
*Fel y cyhoeddwyd gan Our World in Data gan ddefnyddio adroddiadau diweddaraf y Sefydliad Metrigau Iechyd a Gwerthuso (IHME), Global Burden of Disease 2023/2024, ac amcangyfrifon epidemiolegol wedi'u diweddaru Sefydliad Iechyd y Byd.
Efallai bod y sgoriau yn yr adran flaenorol wedi'ch synnu chi.
Mae llawer o bobl yn meddwl am greaduriaid peryglus fel ysglyfaethwyr mawr â dannedd miniog, genau pwerus neu fenwm marwol. Ond mae'r creaduriaid sy'n cael yr effaith fwyaf ar bobl yn amrywiol tu hwnt.
Er mwyn deall pam mae gan rai creaduriaid sgôr uwch nag eraill, mae angen i ni archwilio'r ffyrdd gwahanol y gall pethau byw effeithio ar bobl.
Mae ysglyfaethwyr yn hela ac yn lladd anifeiliaid eraill i gael bwyd. Yn aml, mae ganddyn nhw addasiadau fel dannedd miniog, crafangau, cyflymder, cuddliw neu enau pwerus sy'n eu helpu i ddal ysglyfaeth.
Mae enghreifftiau yn y gweithgaredd hwn yn cynnwys y canlynol:
Mae ysglyfaethwyr yn aml yn cael eu portreadu fel y creaduriaid mwyaf peryglus ar y Ddaear. Fodd bynnag, nid pobl yw'r ysglyfaeth maen nhw'n ei ffafrio fel arfer. Mewn llawer o achosion, mae'r ymosodiadau yn digwydd oherwydd bod anifail yn teimlo ei fod o dan fygythiad, yn amddiffyn tiriogaeth, neu'n camgymryd person am rywogaeth arall.
Cnoi cil: Pam mae ysglyfaethwyr yn ymddangos mor aml mewn straeon, ffilmiau ac adroddiadau newyddion am anifeiliaid peryglus?
Mae anifeiliaid fenymig yn cynhyrchu tocsinau sy'n eu helpu i'w hamddiffyn eu hunain neu ddal ysglyfaeth.
Mae enghreifftiau yn cynnwys:
Mae gwahanol fenymau yn effeithio ar y corff mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai ohonyn nhw'n ymosod ar y system nerfol, tra bod eraill yn niweidio'r pibellau gwaed, y meinweoedd neu'r organau.
Er bod llawer o greaduriaid fenymig yn llawer llai na phobl, gall eu fenwm eu gwneud yn eithriadol o beryglus.
Cnoi cil: Sut gall anifail bach fod yn fwy peryglus nag anifail llawer mwy?
Mae rhai creaduriaid nad ydyn nhw'n gwneud pobl yn sâl yn uniongyrchol. Yn hytrach, maen nhw'n lledaenu organebau sy'n achosi clefydau.
Mae enghreifftiau yn cynnwys:
Mae creaduriaid fector yn chwarae rôl bwysig yng nghylchred bywyd llawer o barasitiaid a phathogenau. Hebddyn nhw, byddai llawer o glefydau yn ei chael hi'n anodd lledaenu o un lletywr i'r llall.
Fodd bynnag, gall rhai anifeiliaid hefyd ledaenu clefydau drwy gnoadau, poer, bwyd wedi'i halogi neu gysylltiad agos â phobl. Mae cŵn yn enghraifft o rywogaeth sy'n gallu trosglwyddo clefydau mewn rhannau o'r byd.
Cnoi cil: Pam y gall pryfyn bychan weithiau gael effaith fwy ar iechyd pobl nag ysglyfaethwr mawr?
Mae parasitiaid yn byw mewn organeb arall, neu arni, ac maen nhw'n dibynnu ar eu lletywr am fwyd, cysgod neu i atgenhedlu.
Mae enghreifftiau yn cynnwys:
Yn wahanol i ysglyfaethwyr, dydy parasitiaid ddim fel arfer yn lladd eu lletywyr yn gyflym. Yn hytrach, maen nhw'n goroesi drwy ecsbloetio eu lletywyr dros gyfnodau hir.
Mae llawer o barasitiaid wedi esblygu dros gylchredau bywyd cymhleth yn cynnwys nifer o letywyr ac addasiadau rhyfeddol sy'n eu helpu i oroesi a lledaenu.
Cnoi cil: Pam ydych chi'n credu bod parasitiaid yn aml yn cael eu hanghofio pan mae pobl yn trafod creaduriaid peryglus?
Dydy pob anifail peryglus ddim yn ysglyfaethwr.
Gall rhai anifeiliaid mawr fod yn eithriadol o beryglus pan maen nhw'n teimlo eu bod nhw o dan fygythiad, wedi'u syfrdanu, neu'n amddiffyn eu hepil.
Mae enghreifftiau yn cynnwys:
Dydy'r anifeiliaid hyn ddim yn hela pobl am fwyd, ond gall eu maint, eu cryfder a'u cyflymder olygu bod dod ar eu traws yn eithriadol o beryglus.
Cnoi cil: Sut gall ymddygiad anifail amddiffynnol fod yn wahanol i ymddygiad ysglyfaethwr?
Mae pobl yn wahanol i'r holl greaduriaid eraill yn y gweithgaredd hwn.
Gallwn ni addasu amgylcheddau, datblygu technoleg, teithio ar draws y byd a chyfleu gwybodaeth gymhleth.
Gall pobl effeithio ar bobl eraill yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, sy'n golygu ei bod yn anodd eu cymharu â'r creaduriaid eraill yn yr ymchwiliad hwn.
Cnoi cil: A ddylai pobl gael eu cynnwys yn yr un rhestr sgoriau â siarcod, parasitiaid a mosgitos, neu ydyn nhw'n perthyn i'w categori eu hunain?
Pan mae pobl yn meddwl am greaduriaid marwol, maen nhw'n aml yn canolbwyntio ar anifeiliaid sy'n edrych yn frawychus.
Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth yn dangos fod yna sawl gwahanol fath o berygl.
Mae rhai creaduriaid yn:
Mae deall risg yn golygu edrych y tu hwnt i sut mae rhywbeth yn edrych a chanolbwyntio ar dystiolaeth.
Dangosodd y sgoriau marwolaeth fod rhai creaduriaid yn cael effaith lawer mwy ar bobl nag y byddai llawer o bobl yn ei ddisgwyl.
Fodd bynnag, mae yna ffactor pwysig arall i'w ystyried.
Gall creadur ddim ond achosi risg os yw pobl yn debygol o ddod ar ei draws.
Mae hyn yn golygu y gall y creadur mwyaf marwol fod yn wahanol iawn gan ddibynnu ar ble yn y byd rydych chi'n byw.
Mae'r Ffeiliau Ffeithiau am Greaduriaid yn y gweithgaredd hwn yn canolbwyntio ar un rhywogaeth gynrychioliadol ar gyfer pob math o greadur.
Yn y rhan fwyaf o achosion, cafodd y rhywogaethau hyn eu dewis oherwydd eu bod ymhlith y rhai mwyaf peryglus, eu bod yn bwysig o safbwynt meddygol neu'n enghreifftiau adnabyddus yn eu grŵp.
Er enghraifft:
Dydy'r enghreifftiau hyn ddim yn cynrychioli pob rhywogaeth yn y grŵp hwnnw.
Wrth gwblhau'r her hon, meddyliwch am y rhywogaeth enghreifftiol a'r math ehangach o greadur y mae'n ei gynrychioli.
Wrth greu eich rhestr sgoriau, meddyliwch yn ofalus am y canlynol:
Er enghraifft, gall Ci Domestig ledaenu'r gynddaredd mewn rhannau o'r byd. Fodd bynnag, mae'r gynddaredd yn eithriadol o brin yng Nghymru, felly gall cŵn gael eu sgorio'n wahanol yng Nghymru o gymharu â rhannau o Affrica.
Cofiwch:
Dydy creadur peryglus ddim bob amser yn creu'r un lefel o risg ym mhob man.
Dychmygwch eich bod chi'n asesu'r risgiau y mae pobl sy'n byw yn Affrica yn eu hwynebu.
Crëwch eich 5 Creadur Mwyaf Marwol ar gyfer Affrica..
Esboniwch eich dewisiadau.
Dychmygwch eich bod chi'n asesu'r risgiau y mae pobl sy'n byw yn Awstralia yn eu hwynebu.
Crëwch eich 5 Creadur Mwyaf Marwol ar gyfer Awstralia..
Esboniwch eich dewisiadau.
Dychmygwch eich bod chi'n asesu'r risgiau y mae pobl sy'n byw yng Nghymru yn eu hwynebu.
Crëwch eich 5 Creadur Mwyaf Marwol ar gyfer Cymru..
Esboniwch eich dewisiadau.
Cymharwch eich tair rhestr.
Sylwadau i Gloi
Ewch yn ôl i'ch dewis gwreiddiol ar ddechrau'r gweithgaredd hwn.
Ydy'ch syniad o beth sy'n gwneud creadur yn farwol wedi newid?
Beth ydych chi wedi'i ddysgu am y gwahaniaeth rhwng ofn a risg?
Does dim un "creadur mwyaf marwol".
Mae risg yn dibynnu ar nifer o wahanol ffactorau.
Mae gwyddonwyr yn defnyddio tystiolaeth i ddeall risg, ac mae'r dystiolaeth honno yn aml yn herio ein hargraffiadau cyntaf.
Sharks. Snakes. Crocodiles.
These animals often appear in films, books and news stories as some of the world's most dangerous creatures.
But are the animals we fear actually the ones most likely to harm us?
In this activity, you'll investigate a collection of creatures from around the world, examine the evidence, and discover whether appearance matches reality.
By the end, you'll create your own Deadliness Index and decide which creatures truly deserve a place on the leaderboard.
Before investigating the evidence, choose the three creatures you think are most dangerous to humans from the below list.
Don't look up any information yet. Just trust your instincts.
Shark
Wolf
Snake
Hippopotamus
Spider
Jellyfish
Crocodile / Alligator
Scorpion
Lion
Bear
Consider your choices, why those three?
Which creature on this list do you think causes the most human deaths each year?
What influenced your decision?
Do you think the world's deadliest creature is on this list?
Before you begin: This activity contains images of animals, parasites and other creatures that some people may find frightening or unpleasant. Remember that the aim of this activity is to explore how our perceptions of danger compare with the evidence.
We have created fact files for all these creatures and more. Select an animal to view more.
No animal selected yet.
Gambiae Mosquito
Anopheles gambiae
Habitat: Tropical regions of Africa, especially near standing water where larvae develop.
Why can it be dangerous to humans? This mosquito feeds on blood and can transmit disease-causing parasites from one person to another.
Did you know? Only female mosquitoes bite humans because they need extra nutrients to produce eggs.
Modern Human
Homo sapiens
Habitat: Found on every continent and in almost every type of environment on Earth.
Why can it be dangerous to humans? Humans can deliberately or accidentally harm other humans through conflict, unsafe behaviour, or the spread of disease.
Did you know? Humans are the only living species known to have permanently settled every continent, from deserts and rainforests to the polar regions.
Saw-Scaled Viper
Echis carinatus
Habitat: Dry grasslands, deserts and scrublands across Africa, the Middle East and South Asia.
Why can it be dangerous to humans? Its venom can cause serious damage to body tissues and interfere with blood clotting.
Did you know? When threatened, it rubs its scales together to produce a rasping warning sound.
Domestic Dog
Canis lupus familiaris
Habitat: Lives alongside humans all over the world.
Why can it be dangerous to humans? Dogs can cause serious injuries through bites and can also act as carriers of diseases in some parts of the world.
Did you know? Dogs were among the first animals domesticated by humans.
Biomphalaria Snail
Biomphalaria glabrata
Habitat: Freshwater habitats in tropical regions, particularly lakes, ponds and slow-moving rivers in Africa and South America.
Why can it be dangerous to humans? These freshwater snails play an important role in the life cycle of parasites that can infect humans.
Did you know? Some parasites must spend part of their life cycle inside a Biomphalaria snail before they can infect their next host.
Kissing Bug
Rhodnius prolixus
Habitat: Found across parts of the Americas, often sheltering in cracks and crevices.
Why can it be dangerous to humans? These insects feed on blood and can transmit disease-causing parasites.
Did you know? Kissing bugs earned their name because they often bite people around the mouth or eyes while they sleep.
Savanna Tsetse Fly
Glossina morsitans
Habitat: Grasslands and savannas of sub-Saharan Africa.
Why can it be dangerous to humans? Feeds on blood and can transmit parasites between hosts.
Did you know? Both male and female tsetse flies feed on blood.
Deathstalker
Leiurus quinquestriatus
Habitat: Deserts and arid regions of North Africa and the Middle East.
Why can it be dangerous to humans? Its sting delivers venom that can affect the nervous system and cause serious symptoms.
Did you know? It is one of the most venomous scorpions in the world.
Human Giant Roundworm
Ascaris lumbricoides
Habitat: Lives in the human intestine and is most common in areas where parasite eggs can spread through contaminated soil, water or food.
Why can it be dangerous to humans? Large numbers of worms can interfere with digestion, absorb nutrients intended for their host, and sometimes block parts of the digestive system.
Did you know? A single female roundworm can produce up to 200,000 eggs in a single day.
Pork Tapeworm
Taenia solium
Habitat: Lives inside the digestive systems of humans and pigs.
Why can it be dangerous to humans? This parasite can absorb nutrients from its host and may cause illness if its larvae spread to other parts of the body.
Did you know? Adult tapeworms can grow several metres long.
Nile Crocodile
Croocodylus niloticus
Habitat: Rivers, lakes and wetlands throughout much of Africa.
Why can it be dangerous to humans? An ambush predator with powerful jaws capable of capturing large prey near the water's edge.
Did you know? Crocodiles can remain almost completely submerged while watching their surroundings.
African Bush Elephant
Loxodonta africana
Habitat: Savannas, forests and grasslands across Africa.
Why can it be dangerous to humans? Elephants are extremely strong and may charge when threatened or protecting their young.
Did you know? They can communicate using low-frequency sounds that travel long distances.
Common Hippopotamus
Hippopotamus amphibius
Habitat: Rivers, lakes and wetlands across sub-Saharan Africa.
Why can it be dangerous to humans? Hippos are highly territorial and can charge at surprising speed when they feel threatened.
Did you know? Despite their bulky appearance, hippos can run faster than most humans.
African Lion
Panthera leo
Habitat: Savannas, grasslands and open woodlands in Africa.
Why can it be dangerous to humans? Lions are powerful predators equipped with sharp claws, strong jaws and cooperative hunting behaviours.
Did you know? Lionesses usually perform most of the hunting for a pride.
Grey Wolf
Canis lupus
Habitat: Forests, grasslands, tundra and mountains across North America, Europe and Asia.
Why can it be dangerous to humans? Wolves are skilled pack hunters capable of bringing down prey much larger than themselves. Wild wolves generally avoid humans but can be dangerous if threatened.
Did you know? A wolf pack is usually made up of a family group led by the parents and their offspring.
Grizzly Bear
Ursus arctos horribilis
Habitat: Forests, mountains and tundra regions of North America.
Why can it be dangerous to humans? Large size, immense strength and protective behaviour can make encounters hazardous.
Did you know? Grizzly bears can run much faster than most people expect.
Sydney Funnel-Web Spider
Atrax robustus
Habitat: Forests and suburban areas around Sydney, Australia.
Why can it be dangerous to humans? Its venom affects the nervous system and can cause severe symptoms if untreated.
Did you know? Males are generally considered more dangerous than females.
Western Honeybee
Apis mellifera
Habitat: Found on every continent except Antarctica.
Why can it be dangerous to humans? Bee stings can cause pain and, in some people, severe allergic reactions.
Did you know? A worker honeybee communicates food locations through a special "waggle dance".
Australian Box Jellyfish
Chironex fleckeri
Habitat: Warm coastal waters around northern Australia and nearby regions.
Why can it be dangerous to humans? Its tentacles contain venom that can affect the heart, nervous system and skin.
Did you know? A single jellyfish may have dozens of tentacles, each covered in thousands of stinging cells.
Great White Shark
Carcharodon carcharias
Habitat: Found in coastal and offshore waters around the world, particularly in temperate and subtropical oceans.
Why can it be dangerous to humans? Great white sharks are large marine predators with powerful jaws and rows of sharp teeth capable of inflicting serious injuries.
Did you know? Great White Sharks can detect tiny electrical signals produced by other animals.
Work through each Creature Fact File and make notes about anything that surprises you.
As you read, think about:
Once you are ready, return to the three creatures you selected previously as the top three most dangerous to humans.
Do you still agree with your choices?
You have now explored the evidence and may even have changed some of your predictions.
But there is still a missing piece of information.
The fact files tell you how each creature can affect humans, but they don't tell you how often those effects occur.
A creature might have sharp teeth, powerful venom or incredible strength, but does that automatically make it one of the deadliest creatures on Earth?
To answer that question, scientists need data.
In this section, you'll investigate real-world evidence about the impact different creatures have on human populations and discover whether your predictions were correct.
Will the deadliest creatures be the ones you expected?
It's time to find out.
Here are the list of animals again. This time, when you click on them it will reveal their ranking in our fatalities table below.
| Ranking | Creature | Estimated Human Fatalities (2023-2024*) | Main Cause of Fatalities |
|---|---|---|---|
| 1 | Mosquito | 760,000 | Malaria and other viral diseases |
| 2 | Human | 600,000 | Violence and conflict |
| 3 | Snake | 100,000 | Venomous bites |
| 4 | Dog | 40,000 | Rabies virus infection |
| 5 | Freshwater Snail | 14,000 | Parasitic flatworm disease |
| 6 | Assassin Bug | 8,000 | Chagas disease parasite |
| 7 | Roundworm | 4,000 | Intestinal infection and blockages |
| 8 | Scorpion | 3,000 | Venomous stings |
| 9 | Tapeworm | 2,000 | Brain and tissue cyst infection |
| 10 | Tsetse Fly | 1,500 | Sleeping sickness parasite |
| 11 | Crocodiles / Alligators | 1,000 | Ambush attacks |
| 11 | Elephant | 1,000 | Trampling and conflict |
| 13 | Hippopotamus | 500 | Defensive territorial attacks |
| 13 | Bees / Wasps / Hornets | 500 | Severe allergic reactions |
| 15 | Lion | 300 | Predation and territorial attacks |
| 16 | Jellyfish | 100 | Venomous stings |
| 17 | Spider | 50 | Venomous Bites |
| 18 | Bear | 20 | Defensive strikes and maulings |
| 19 | Shark | 6 | Exploratory bites |
| 20 | Wolf | 5 | Defensive or pack attacks |
*As published by Our World in Data using the latest 2023/2024 Institute for Health Metrics and Evaluation (IHME) Global Burden of Disease reports and updated World Health Organization (WHO) epidemiological estimates.
The rankings in the previous section may have surprised you.
Many people imagine dangerous creatures as large predators with sharp teeth, powerful jaws or deadly venom. However, the creatures that have the greatest impact on humans come in many different forms.
To understand why some creatures rank higher than others, we need to explore the different ways that living things can affect humans.
Predators hunt and kill other animals for food. They often have adaptations such as sharp teeth, claws, speed, camouflage or powerful jaws that help them catch prey.
Examples from this activity include:
Predators are often portrayed as the most dangerous creatures on Earth. However, humans are not usually their preferred prey. In many cases, attacks occur because an animal feels threatened, is defending territory, or mistakes a human for another species.
Think about it: Why do predators appear so often in stories, films and news reports about dangerous animals?
Venomous animals produce toxins that help them defend themselves or capture prey.
Examples include:
Different venoms affect the body in different ways. Some attack the nervous system, while others damage blood vessels, tissues or organs.
Although many venomous creatures are much smaller than humans, their venom can make them extremely dangerous.
Think about it: How can a small animal be more dangerous than a much larger one?
Some creatures do not make humans ill directly. Instead, they spread organisms that cause disease.
Examples include:
Vector creatures play an important role in the life cycles of many parasites and pathogens. Without them, many diseases would struggle to spread from one host to another.
However, some animals can also spread disease through bites, saliva, contaminated food or close contact with humans. Dogs are an example of a species that can transmit diseases in some parts of the world.
Think about it: Why might a tiny insect sometimes have a greater impact on human health than a large predator?
Parasites live in or on another organism and rely on their host for food, shelter or reproduction.
Examples include:
Unlike predators, parasites usually do not kill their hosts quickly. Instead, they survive by exploiting their hosts over long periods of time.
Many parasites have evolved complex life cycles involving multiple hosts and remarkable adaptations that help them survive and spread.
Think about it: Why do you think parasites are often overlooked when people discuss dangerous creatures?
Not all dangerous animals are predators.
Some large animals can be extremely dangerous when they feel threatened, surprised, or are protecting their young.
Examples include:
These animals do not hunt humans for food, but their size, strength and speed can make encounters extremely dangerous.
Think about it: How might the behaviour of a defensive animal differ from that of a predator?
Humans are unlike any of the other creatures in this activity.
We can modify environments, develop technology, travel across the globe and communicate complex information.
Humans can affect other humans both directly and indirectly, making them difficult to compare with the other creatures in this investigation.
Think about it: Should humans be included in the same rankings as sharks, parasites and mosquitoes, or do they belong in a category of their own?
When people think about deadly creatures, they often focus on animals that look frightening.
However, the evidence shows that danger can take many forms.
Some creatures:
Understanding risk means looking beyond appearances and focusing on evidence.
The fatality rankings showed that some creatures have a much greater impact on humans than many people expect.
However, there is another important factor to consider.
A creature can only pose a risk if people are likely to encounter it.
This means that the deadliest creature may be very different depending on where in the world you live.
The Creature Fact Files in this activity focus on a single representative species for each type of creature.
In most cases, these species were chosen because they are among the most dangerous, medically important or well-known examples of their group.
For example:
These examples do not represent every species within that group.
When completing this challenge, think about both the example species and the wider type of creature it represents.
When creating your rankings, think carefully about:
For example, the Domestic Dog can spread rabies in some parts of the world. However, rabies is extremely rare in Wales, so dogs might be ranked differently there than in parts of Africa.
Remember:
A dangerous creature does not always create the same level of risk everywhere.
Imagine you are assessing the risks faced by people living in Africa.
Create your Top 5 Deadliest Creatures for Africa.
Explain your choices.
Imagine you are assessing the risks faced by people living in Australia.
Create your Top 5 Deadliest Creatures for Australia.
Explain your choices.
Imagine you are assessing the risks faced by people living in Wales.
Create your Top 5 Deadliest Creatures for Wales.
Explain your choices.
Compare your three rankings.
Final Thoughts
Return to your original selection from the beginning of this activity.
Has your idea of what makes a creature deadly changed?
What have you learned about the difference between fear and risk?
There is no single "deadliest creature".
Risk depends on many different factors.
Scientists use evidence to understand risk, and that evidence often challenges our first impressions.