Mae'r rhan fwyaf o bobl wedi clywed am yr ymateb "ymladd neu ffoi".
Ond ai dim ond dwy ffordd sydd yna i ymateb i berygl go iawn?
Cyn dysgu am wyddoniaeth ofn, meddyliwch am sut byddech chi'n ymateb yn y sefyllfaoedd isod.
Does dim atebion 'cywir' neu 'anghywir'.
Cadwch eich ymatebion yn ddiogel. Fe fyddwn ni'n edrych arnyn nhw eto yn ystod y gweithgaredd.
Wrth gerdded adref ar eich pen eich hun yn y nos, rydych chi'n clywed sŵn traed y tu ôl i chi.
Mae'n ymddangos bod y sŵn yn dod yn agosach.
Beth ydych chi'n meddwl fyddai eich ymateb cyntaf chi?
Wrth i chi gerdded heibio mynwent yn y nos, rydych chi'n clywed sŵn symud y tu ôl i garreg fedd gyfagos.
Dydych chi ddim yn gallu gweld achos y sŵn.
Beth ydych chi'n meddwl fyddai eich ymateb cyntaf chi?
Rydych chi gartref ar eich pen eich hun.
Daw sŵn mawr o ystafell arall yn y tŷ.
Beth ydych chi'n meddwl fyddai eich ymateb cyntaf chi?
Rydych chi'n gwersylla yn y goedwig gyda ffrindiau.
Yn sydyn, mae anifail gwyllt mawr yn dod allan o'r coed ac yn chwyrnu.
Beth ydych chi'n meddwl fyddai eich ymateb cyntaf chi?
Meddyliwch am eich ymatebion i'r senarios uchod.
Oeddech chi'n ymateb yr un fath bob tro, neu oedd eich ymateb yn amrywio yn dibynnu ar y sefyllfa?
Mae seicolegwyr wedi nodi pum ffordd gyffredin y mae pobl yn ymateb i ofn a pherygl. Felly beth yn union yw'r 5 Ymateb?
Ymateb i fygythiad drwy ei wynebu neu geisio amddiffyn eich hun neu eraill.
Enghraifft: Rhiant yn rhuthro tuag at berygl i amddiffyn ei blentyn.
Mantais bosib: Fe allai eich helpu chi i amddiffyn eich hun neu eraill rhag niwed uniongyrchol.
Ymateb i fygythiad drwy symud i ffwrdd oddi wrtho neu ddianc.
Enghraifft: Gadael adeilad ar ôl darganfod tân.
Mantais bosib: Mae'n creu pellter rhyngoch chi a'r bygythiad.
Asesu bygythiad posib cyn penderfynu sut i ymateb.
Enghraifft: Clywed sŵn traed annisgwyl y tu ôl i chi ac edrych o gwmpas i geisio deall o ble maen nhw'n dod.
Mantais bosib: Mae'n eich helpu i gasglu gwybodaeth a phenderfynu ar yr ymateb mwyaf priodol.
Ceisio lleihau'r perygl drwy ymddangos yn gyfeillgar, yn gydweithredol neu'n anfygythiol.
Enghraifft: Ceisio tawelu person dig drwy ymddwyn yn gwrtais a chydweithredol.
Mantais bosib: Gall leddfu ymddygiad ymosodol a helpu i dawelu sefyllfa.
Ymateb 'diffodd' anwirfoddol sy'n gallu digwydd yn ystod cyfnod o ofn llethol.
Enghraifft: Teimlo anallu i symud neu ymateb yn ystod sefyllfa hynod frawychus.
Mantais bosib: Gall aros yn llonydd osgoi tynnu sylw pan nad yw dianc neu amddiffyn yn bosib.
Pa un o'r 5 Ymateb sy'n cyd-fynd orau â'r ymateb wnaethoch chi ei ddisgrifio ar gyfer pob senario?
Wnaethoch chi ddefnyddio'r un ymateb i ofn bob tro?
Oedd unrhyw un o'ch ymatebion yn anodd i'w ddosbarthu?
Fyddai rhywun yn gallu profi mwy nag un ymateb i ofn yn ystod yr un sefyllfa?
Darllenwch bob datganiad a phenderfynwch pa ymateb i ofn sy'n gweddu orau iddo.
"Fe wnes i wenu, cytuno, a cheisio cadw'r sefyllfa'n ddigynnwrf."
"Cyn i fi sylweddoli beth oedd yn digwydd, roeddwn i eisoes yn mynd tuag at yr allanfa agosaf."
"Roeddwn i'n teimlo wedi fy llethu a doeddwn i ddim yn gallu meddwl am unrhyw beth i'w wneud."
"Fe wnes i gamu o flaen fy ffrind a dweud wrth bawb arall i symud yn ôl."
"Fe wnes i stopio siarad a chanolbwyntio fy holl sylw ar y sŵn."
Nawr rhowch gynnig ar ambell enghraifft fwy heriol.
Allwch chi nodi'r ymateb i ofn? Mae'n bosib y bydd mwy nag un ateb cywir.
"Fe wnes i edrych o gwmpas yn ofalus, nodi ble roedd yr allanfeydd a gwylio beth oedd pawb arall yn ei wneud."
"Fe wnes i ddechrau ymddwyn yn hwyliog a chyfeillgar, er fy mod i'n teimlo'n ofnus."
"Am ychydig eiliadau doeddwn i ddim yn gallu penderfynu beth i'w wneud, ond unwaith roeddwn i wedi llawn ddeall y sefyllfa, fe wnes i redeg."
"Fe wnes i symud yn agosach oherwydd bod angen help ar rywun."
Mae llawer o bobl yn profi mwy nag un ymateb i ofn yn ystod yr un sefyllfa.
Darllenwch yr enghreifftiau isod.
Enghraifft A
Rydych chi'n clywed sŵn rhyfedd y tu allan.
Yn gyntaf, rydych chi'n oedi ac yn gwrando'n ofalus.
Yna rydych chi'n sylweddoli bod perygl posib ac yn symud i ffwrdd.
Pa ddau ymateb i ofn sydd ar waith?
Enghraifft B
Wrth i chi gerdded adref, mae dieithryn dig yn dechrau gweiddi arnoch chi.
Ar y dechrau, rydych chi'n teimlo wedi'ch llethu ac yn methu ymateb.
Ar ôl ychydig eiliadau, rydych chi'n dechrau siarad yn dawel ac yn gwrtais er mwyn ceisio osgoi gwaethygu'r sefyllfa.
Pa ddau ymateb i ofn sydd ar waith?
Hyd yn hyn, rydych chi wedi archwilio'r 5 Ymateb i ofn a'u defnyddio i ddosbarthu gwahanol ymatebion i berygl.
Ond ydy pob person yn ymateb yn yr un ffordd?
Dychmygwch fod yr un sefyllfa yn cael ei wynebu gan sawl person gwahanol.
Fydden nhw i gyd yn ymateb yn yr un ffordd yn union?
Y Senario: Yn sydyn, mae ci mawr yn rhedeg tuag at bum person gwahanol.
Y Bobl:
Pa ymateb i ofn y gallai pob unigolyn ei ddangos?
Fyddai pawb yn ymateb yn yr un ffordd?
Pam fydden nhw'n ymateb yn wahanol efallai?
Gall llawer o ffactorau effeithio ar sut mae person yn ymateb i ofn, gan gynnwys:
Oherwydd bod pob sefyllfa yn wahanol, dydy pawb ddim yn ymateb i ofn yn yr un ffordd.
Gall dau berson brofi'r un sefyllfa ac ymateb mewn ffyrdd hollol wahanol.
Dydy hyn ddim yn golygu bod un person yn "iawn" a'r llall yn "anghywir".
Mae ymatebion i ofn yn cael eu dylanwadu gan lawer o wahanol ffactorau ac yn aml maen nhw'n digwydd yn awtomatig.
Nid dim ond pobl sy'n ymateb i ofn.
Mae llawer o anifeiliaid yn dangos ymddygiadau sy'n debyg i'r 5 Ymateb.
Gadewch i ni edrych eto ar ambell senario flaenorol a'u chymharu ag ymatebion anifeiliaid mewn sefyllfaoedd tebyg.
Enghraifft ddynol: Rhiant yn rhuthro tuag at berygl i amddiffyn plentyn.
Enghraifft o anifail: Arth yn symud tuag at fygythiad i amddiffyn ei chenawon.
Enghraifft annisgwyl o fyd anifeiliaid: Yn hytrach nag ymddygiad ymosodol arferol, mae chwyddbysgodyn yn chwyddo ei gorff gyda dŵr ac yn dangos pigau miniog i roi'r argraff ar unwaith ei fod yn rhy fawr a pheryglus i'w lyncu.
Enghraifft ddynol: Pobl yn gadael adeilad ar ôl darganfod tân.
Enghraifft o anifail: Mae cwningen yn rhedeg i ffwrdd yn gyflym ar ôl gweld llwynog.
Enghraifft annisgwyl o fyd anifeiliaid: Mae pysgod hedegog yn llamu allan o'r dŵr ac yn gleidio hyd at 200 metr drwy'r awyr i ddianc rhag ysglyfaethwyr tanddwr fel tiwna neu ddolffiniaid.
Enghraifft ddynol: Rhywun yn clywed sŵn traed y tu ôl iddyn nhw ac yn asesu'r sefyllfa mewn ffordd hynod effro.
Enghraifft o anifail: Mae carw yn clywed sŵn annisgwyl ac yn stopio i ganolbwyntio ar yr hyn sydd o'i gwmpas.
Enghraifft annisgwyl o fyd anifeiliaid: Mae adar y bwn (sy'n byw ar gorstir) yn pwyntio eu pigau yn syth i fyny i'r awyr ac yn siglo'n araf mewn amser gyda'r cyrs cyfagos, gan wneud eu hunain yn anweledig i ysglyfaethwyr o'r awyr drwy ddynwared gweithredol.
Enghraifft ddynol: Rhywun yn ceisio aros yn dawel a chydweithredol yn ystod unrhyw wrthdaro.
Enghraifft o anifail: Mae blaidd yn swatio ac yn osgoi herio aelod cryfach o'r haid.
Enghraifft annisgwyl o fyd anifeiliaid: Mae pysgod glanhau yn perfformio symudiadau "dawnsio" anfygythiol penodol i dawelu pysgod ysglyfaethus a fyddai fel arfer yn eu bwyta, gan gyfleu cydweithredu yn hytrach na gwrthdaro.
Enghraifft ddynol: Person yn teimlo wedi'i lethu ac yn methu ymateb yn ystod sefyllfa hynod frawychus.
Enghraifft o anifail: Mae oposwm yn llonyddu'n llwyr ac yn ymddangos yn farw pan gaiff ei fygwth.
Enghraifft annisgwyl o fyd anifeiliaid: Oherwydd cyflwr cyhyrau etifeddol (myotonia congenita), mae geifr llewygu yn profi stiffrwydd dros dro yn eu cyhyrau pan maen nhw'n dychryn, gan achosi iddyn nhw gwympo ar eu hochr wrth brofi panig - enghraifft gorfforol a llythrennol o ildio drwy fynd yn llipa.
Rydyn ni wedi edrych ar sut mae pobl ac anifeiliaid yn gallu dangos ymatebion gwahanol i ofn.
Mae seicolegwyr a biolegwyr yn credu bod yr ymatebion hyn yn bodoli oherwydd eu bod nhw'n gallu helpu unigolion i oroesi sefyllfaoedd peryglus.
Os yw ymateb yn gwella'r siawns o oroesi, mae'n bosib ei fod yn fwy tebygol o gael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall.
Dychmygwch mai dim ond un ymateb i ofn oedd gan fodau dynol.
Er enghraifft, beth pe bai pawb bob amser yn ymateb drwy redeg i ffwrdd?
Pa broblemau allai hynny eu creu?
Pam felly y gall meddu ar sawl ymateb i ofn gynyddu'r siawns o oroesi?
Dydy seicolegwyr ddim bob amser yn cytuno'n union sut i ddosbarthu ymatebion i ofn.
Mae rhai ymddygiadau, fel chwyddbysgodyn yn chwyddo neu stiffrwydd geifr llewygu, nad ydyn nhw'n gweddu'n berffaith i un categori.
Mae hyn yn ein hatgoffa bod systemau dosbarthu yn adnoddau defnyddiol, ond mae natur yn aml yn fwy cymhleth na'r categorïau rydyn ni'n eu creu.
Rydych chi a thri ffrind yn crwydro mewn ardal anghysbell pan fydd storm yn taro.
Wrth i'r glaw arllwys yn drymach, rydych chi'n dod o hyd i hen adeilad sy'n ymddangos yn wag ac yn penderfynu cysgodi y tu mewn.

Wrth aros i'r storm basio, rydych chi'n clywed sŵn uchel o ystafell arall.
Ychydig funudau yn ddiweddarach:
Dydych chi ddim yn siŵr oes yna rywun arall yno gyda chi neu ai'r storm sydd wedi achosi'r sŵn.
Dydych chi ddim yn gwybod beth sy'n digwydd.
Dychmygwch berson yn ymateb gyda phob un o'r 5 Ymateb.
Ar gyfer pob ymateb:
Nawr ystyriwch y pedwar person isod:
Fydden nhw i gyd yn ymateb yn yr un ffordd yn y senario hwn?
Esboniwch eich rhesymu.
Most people have heard of the "fight or flight" response.
Do humans really have only two ways to respond to danger?
Before learning about the science of fear, think about how you might respond in the situations below.
There are no right or wrong answers.
Keep your responses safe. You'll revisit them later in the activity.
You are walking home alone at night when you hear footsteps behind you.
They seem to be getting closer.
What do you think your first reaction would be?
As you walk past a graveyard at night, you hear movement behind a nearby headstone.
You cannot see what caused it.
What do you think your first reaction would be?
You are home alone.
A loud crash comes from another room in the house.
What do you think your first reaction would be?
You are camping in the woods with friends.
A large wild animal suddenly emerges from the trees and growls.
What do you think your first reaction would be?
Think about your responses to the scenarios provided.
Were your reactions all the same, or did they vary depending on the situation?
Psychologists have identified five common ways that people respond to fear and danger. These are often called the 5 Fs of Fear.
Responding to a threat by confronting it or attempting to protect yourself or others.
Example: A parent rushing towards danger to protect their child.
Possible Advantage: May help protect yourself or others from immediate harm.
Responding to a threat by moving away from it or escaping.
Example: Leaving a building after discovering a fire.
Possible Advantage: Creates distance between you and the threat.
Assessing a potential threat before deciding how to respond.
Example: Hearing unexpected footsteps behind you and looking around to work out where they are coming from.
Possible Advantage: Helps you gather information and decide on the most appropriate response.
Attempting to reduce danger by appearing friendly, cooperative or non-threatening.
Example: Trying to calm an angry person through polite and cooperative behaviour.
Possible Advantage: May reduce aggression and help de-escalate a situation.
An involuntary shutdown response that can occur during overwhelming fear.
Example: Feeling unable to move or react during an extremely frightening situation.
Possible Advantage: Remaining still may reduce attention when escape or defence is not possible.
Which of the 5 Fs best matches the response you described for each scenario?
Did you use the same fear response every time?
Were any of your responses difficult to classify?
Could someone experience more than one fear response during the same situation?
Read each statement and decide which fear response it best matches.
"I kept smiling, agreeing, and trying to keep the situation calm."
"Before I realised what was happening, I was already heading towards the nearest exit."
"I felt overwhelmed and couldn't think of anything to do."
"I stepped in front of my friend and told everyone else to move back."
"I stopped talking and focused all my attention on the sound."
Now try some more challenging examples.
Can you identify the fear response? There may be more than one correct answer.
"I looked around carefully, checking where the exits were and watching what everyone else was doing."
"I started joking and acting friendly even though I felt frightened."
"For a few moments I couldn't decide what to do, but once I understood the situation I ran."
"I moved closer because someone needed help."
Many people experience more than one fear response during the same situation.
Read the examples below.
Example A
You hear a strange noise outside.
First, you stop and listen carefully.
Then you realise there may be danger and move away.
Which two fear responses are shown?
Example B
You are walking home when an angry stranger begins shouting at you.
At first, you feel overwhelmed and unable to react.
After a few moments, you begin speaking calmly and politely to try to avoid making the situation worse.
Which two fear responses are shown?
So far, you've explored the 5 Fs of Fear and used them to classify different responses to danger.
But do all people react in the same way?
Imagine the same situation is faced by several different people.
Would they all respond in exactly the same way?
The Scenario: A large dog suddenly runs towards five different people.
The People:
Which fear response might each person show?
Would everyone respond in the same way?
Why might their responses be different?
Many factors can affect how a person responds to fear, including:
Because every situation is different, people do not all respond to fear in the same way.
Two people can experience the same situation and respond in completely different ways.
This does not mean one person was "right" and the other was "wrong".
Fear responses are influenced by many different factors and often happen automatically.
Fear responses are not unique to humans.
Many animals show behaviours that are similar to the 5 Fs of Fear.
Let's revisit some of our previous scenarios and compare to similar animal reactions.
Human Example: A parent rushes towards danger to protect their child.
Animal Example: A bear moves towards a threat to protect its cubs.
Surprising Animal Example: Instead of standard physical aggression, a pufferfish inflates its body with water and displays sharp spines to instantly make itself too large and dangerous to swallow.
Human Example: People leave a building after discovering a fire.
Animal Example: A rabbit quickly runs away after spotting a fox.
Surprising Animal Example: Flying fish launch out of the water and glide up to 200 meters through the air to escape underwater predators like tuna or dolphins.
Human Example: Someone hears footsteps behind them and becomes highly alert while assessing the situation.
Animal Example: A deer hears an unexpected sound and stops to focus on its surroundings.
Surprising Animal Example: Bitterns (marsh birds) point their beaks directly straight up into the air and sway slowly in time with the surrounding reeds, rendering themselves invisible to aerial predators through active mimicry.
Human Example: Someone tries to stay calm and cooperative during a confrontation.
Animal Example: A wolf lowers its body and avoids challenging a stronger pack member.
Surprising Animal Example: Cleaner fish perform specific, non-threatening "dancing" movements to calm down predatory fish that would normally eat them, signaling cooperation instead of conflict.
Human Example: A person feels overwhelmed and unable to react during an extremely frightening situation.
Animal Example: An opossum becomes motionless and appears dead when threatened.
Surprising Animal Example: Due to a hereditary muscle condition (myotonia congenita), fainting goats experience temporary muscle stiffness when startled, causing them to collapse entirely on their side when panicked - a literal, physical "flop."
We've looked at how both humans and animals can show different fear responses.
Psychologists and biologists think these responses exist because they can help individuals survive dangerous situations.
If a response improves the chance of survival, it may be more likely to be passed on through generations.
Imagine humans only had one fear response.
For example, what if everyone always reacted by running away?
What problems might this create?
So, why might having several fear responses increase the chances of survival?
Psychologists do not always agree exactly how fear responses should be classified.
Some behaviours, such as a pufferfish inflating or a fainting goat becoming rigid, do not fit perfectly into a single category.
This reminds us that classification systems are useful tools, but nature is often more complicated than the categories we create.
You and three friends are exploring a remote area when a storm begins.
As the rain gets heavier, you find an old building that appears empty and decide to take shelter inside.

While waiting for the storm to pass, you hear a loud crash from another room.
A few moments later:
You are not sure whether someone else is there with you or whether the sound was caused by the storm.
You do not know what is happening.
Imagine a person responding with each of the 5 Fs.
For each response:
Now consider the four people below:
Would they all react in the same way in this scenario?
Explain your reasoning.