Mae adroddiadau o weithgarwch rhyfedd yn dod i'r amlwg ledled y wlad.
Mae rhai pobl yn honni eu bod nhw wedi clywed synau dirgel mewn hen adeiladau. Mae eraill yn sôn am gysgodion rhyfedd, mannau oer anesboniadwy neu greaduriaid sy'n symud drwy'r tywyllwch.
Mae'r Urdd Hela Bwystfilod wedi cael y dasg o ymchwilio i'r adroddiadau hyn, ond dydy straeon ac adroddiadau llygad-dystion ddim yn ddigon. Mae angen tystiolaeth ar wyddonwyr ac ymchwilwyr.
Fel ymchwilydd paranormal dan hyfforddiant, eich tasg chi yw casglu tystiolaeth a phenderfynu beth sy'n digwydd mewn gwirionedd.
I wneud hyn, bydd angen i chi ddeall sut mae bodau dynol, anifeiliaid a chyfrifiaduron yn casglu gwybodaeth am y byd o'u cwmpas.
Er mwyn ymchwilio i ddigwyddiadau anarferol, mae angen i chi ddeall yn gyntaf sut mae bodau dynol yn casglu gwybodaeth.
Mae eich corff yn cynnwys celloedd derbyn arbenigol sy'n synhwyro newidiadau yn eich amgylchfyd. Mae'r celloedd derbyn hyn yn ymateb i wahanol ysgogiadau, fel golau, sain, cemegion, tymheredd a gwasgedd.
Mae'r wybodaeth yn cael ei hanfon i'r ymennydd, sy'n dehongli'r data ac yn eich helpu i benderfynu sut i ymateb.
Mae llawer o bobl yn dysgu am y pum prif synnwyr, ond gall bodau dynol synhwyro llawer mwy na golwg, clyw, arogl, blas a chyffyrddiad.
Er enghraifft, mae derbynyddion yn y glust fewnol yn helpu i gynnal cydbwysedd, tra bod propriodderbynyddion mewn cyhyrau a chymalau yn helpu eich ymennydd i gadw golwg ar ystum gwahanol rannau o'ch corff heb i chi orfod edrych arnyn nhw.
Ystyriwch y sefyllfaoedd canlynol:
Pa ysgogiad sy'n cael ei synhwyro ym mhob senario?
Pa dderbynyddion neu organau sy'n rhan o wneud hynny?
Pa enghreifftiau sy'n darparu gwybodaeth am y byd y tu allan?
Pa enghreifftiau sy'n darparu gwybodaeth am ystum a symudiad eich corff chi eich hun?
Mae ymchwilwyr yn derbyn yr adroddiadau canlynol o wahanol leoliadau:
Pa dderbynyddion a gafodd eu defnyddio i wneud pob arsylwad?
Pa mor ddibynadwy yw pob arsylwad?
Pa ffactorau allai wneud yr arsylwi yn llai dibynadwy?
Pa dystiolaeth ychwanegol fyddai'n helpu i gadarnhau pob adroddiad?
Ystyriwch y ffenomenau amrywiol hyn:
Pa rai mae bodau dynol yn gallu eu canfod yn naturiol?
Pa rai nad oes modd eu canfod yn uniongyrchol?
Pam fyddai angen offer arbenigol ar ymchwilwyr?
Mae bodau dynol yn gallu synhwyro llawer o ysgogiadau gwahanol, ond mae cyfyngiadau i'r hyn y gallwn ni ei synhwyro'n uniongyrchol.
Mae rhai anifeiliaid wedi esblygu addasiadau arbenigol sy'n caniatáu iddyn nhw gasglu gwybodaeth am eu hamgylchedd mewn ffyrdd na all bodau dynol. Mae'r addasiadau hyn yn eu helpu i ddod o hyd i fwyd, osgoi ysglyfaethwyr a llywio drwy eu hamgylchedd.
Mae gwyddonwyr yn aml yn astudio'r systemau biolegol hyn wrth ddylunio technolegau a synwyryddion newydd.
Mae ystlumod yn weithgar yn y nos ac yn aml yn hela mewn tywyllwch llwyr.
Yn hytrach na dibynnu ar olwg, mae llawer o ystlumod yn defnyddio adlaisleoli. Maen nhw'n cynhyrchu tonnau sain amledd uchel ac yn gwrando ar yr adleisiau sy'n bownsio'n ôl o wrthrychau cyfagos.
Mae hyd yr amser i'r adlais ddychwelyd yn helpu'r ystlum i benderfynu:
Mae hyn yn caniatáu i ystlumod symud o gwmpas a dal pryfed hyd yn oed pan nad oes llawer o olau.
Mae'n amhosib i fodau dynol ganfod y synau uwchsain (amledd uchel) hyn yn naturiol.
Nodyn Hela Bwystfilod: Os oedd creadur yn cuddio yn y tywyllwch, gallai adlaisleoli ddatgelu ei leoliad heb i'r ystlum orfod ei weld yn uniongyrchol.
Mae gan wiberod pantiog organau arbenigol wedi'u lleoli rhwng eu llygaid a'u ffroenau.
Mae'r organau hyn yn canfod ymbelydredd is-goch, sy'n cael ei allyrru gan wrthrychau cynnes.
Mae hyn yn caniatáu i'r neidr wneud y canlynol:
Dydy bodau dynol ddim yn gallu canfod ymbelydredd is-goch yn naturiol.
Nodyn Hela Bwystfilod: Gallai synhwyrydd is-goch helpu ymchwilwyr i adnabod gwrthrychau cynnes neu anifeiliaid wedi'u cuddio mewn amgylcheddau tywyll.
Mae rhai siarcod yn gallu synhwyro signalau trydanol bach iawn sy'n cael eu cynhyrchu gan gyhyrau a nerfau anifeiliaid eraill.
Mae yna dderbynyddion arbenigol o amgylch pen y siarc, o'r enw ampwlâu Lorenzini.
Mae'r derbynyddion hyn yn caniatáu i siarcod:
Dydy bodau dynol ddim yn gallu canfod meysydd trydanol heb offer arbenigol.
Nodyn Hela Bwystfilod: Pe bai creadur yn llwyddo i guddio, ond ei fod yn dal yn fyw ac yn symud, gallai signalau trydanol ddatgelu ei bresenoldeb.
Mae sawl rhywogaeth, gan gynnwys adar a chrwbanod môr, yn gallu synhwyro maes magnetig y Ddaear.
Mae'r gallu hwn yn eu helpu i wneud y canlynol:
Er nad yw bodau dynol yn gallu canfod meysydd magnetig yn uniongyrchol, mae technoleg fel cwmpawdau yn gallu eu mesur.
Nodyn Hela Bwystfilod: Os yw adroddiadau'n awgrymu bod creadur bob amser yn ymddangos yn yr un lleoliadau, fe allai mesuriadau meysydd magnetig helpu ymchwilwyr i adnabod patrymau.
Mae ceirw yn byw yn amgylcheddau'r Arctig lle mae eira a rhew yn adlewyrchu llawer iawn o olau.
Yn wahanol i bobl, mae ceirw Llychlyn yn gallu gweld golau uwchfioled (UV), math o ymbelydredd electromagnetig gyda thonfedd fyrrach na golau gweladwy.
Mae'r gallu hwn yn eu helpu i ganfod gwrthrychau a fyddai fel arall yn ymdoddi â'r dirwedd aeafol. Er enghraifft:
Dydy bodau dynol ddim yn gallu gweld ymbelydredd uwchfioled yn uniongyrchol, ond mae'n bosib i gamerâu a synwyryddion arbenigol wneud hynny.
Nodyn Hela Bwystfilod: Os yw creadur yn gadael olion sy'n adlewyrchu neu'n amsugno golau uwchfioled, gallai camera UV ddatgelu tystiolaeth sy'n anweledig i'r llygad dynol.
Mae pobl ac anifeiliaid yn casglu gwybodaeth gan ddefnyddio derbynyddion biolegol.
Dydy cyfrifiaduron ddim yn gallu gweld, clywed na theimlo yn yr un modd. Yn hytrach, maen nhw'n defnyddio synwyryddion.
Dyfais yw synhwyrydd sy'n canfod ysgogiad ac yn ei drosi'n ddata y mae modd i gyfrifiadur ei brosesu.
Yn union fel y mae gwahanol dderbynyddion yn canfod gwahanol ysgogiadau, mae gwahanol synwyryddion wedi'u cynllunio i gasglu gwahanol fathau o wybodaeth.
| Ysgogiad | Canfod gan Ddyn/Anifail | Synhwyrydd Electronig |
|---|---|---|
| Golau gweladwy | Llygad | Camera/synhwyrydd golau |
| Sain | Clust | Meicroffon |
| Tymheredd | Derbynyddion tymheredd | Synhwyrydd tymheredd |
| Symud | Llygaid, clust fewnol | Synhwyrydd symud/mesurydd cyflymu |
| Pellter | Llygaid, adlaisleoli (ystlumod) | Synhwyrydd uwchsonig |
| Ymbelydredd is-goch | Organau gwiber bantiog | Synhwyrydd is-goch |
| Ymbelydredd uwchfioled | Llygaid ceirw Llychlyn | Synhwyrydd uwchfioled |
| Meysydd magnetig | Magnetodderbyn crwban môr | Magnetomedr/cwmpawd |
| Meysydd trydanol | Electrodderbyn siarc | Synhwyrydd EMF |
Pam mae angen sawl synhwyrydd gwahanol ar gyfrifiadur yn hytrach na dim ond un?
Mae gwahanol synwyryddion yn ddefnyddiol mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Ystyriwch yr ymchwiliadau canlynol.
Mae tyst yn adrodd ei fod wedi clywed synau rhyfedd mewn hen adeilad gwag.
Pa synhwyrydd fyddai'n darparu'r dystiolaeth fwyaf defnyddiol?
Esboniwch eich ateb.
Mae'n ymddangos bod rhywbeth yn symud drwy goedwig wedi iddi dywyllu, ond does dim modd ei weld yn glir.
Pa synhwyrydd fyddai'n darparu'r dystiolaeth fwyaf defnyddiol?
Fyddai mwy nag un synhwyrydd yn gallu helpu?
Y gred yw bod creadur yn gadael ôl sy'n amhosib i'r llygad dynol ei weld.
Pa synhwyrydd/synwyryddion allai helpu ymchwilwyr i gasglu tystiolaeth?
Esboniwch eich rhesymu.
Dydy synhwyrydd ddim yn dweud beth achosodd digwyddiad.
Mae'n cofnodi data, a dim mwy.
Rhaid i wyddonwyr ddadansoddi'r data sy'n cael ei gasglu a phenderfynu pa esboniad sy'n cael ei gefnogi orau gan y dystiolaeth.
Mae synhwyrydd is-goch yn canfod gwrthrych cynnes sy'n symud drwy gae yn y nos.
Pa wybodaeth mae'r synhwyrydd wedi'i chasglu mewn gwirionedd?
Pa dystiolaeth ychwanegol fyddai'n helpu i adnabod y gwrthrych?
Pam mae'n bwysig osgoi llunio casgliad yn rhy sydyn?
Mae ymchwilwyr paranormal yn aml yn defnyddio offer arbenigol wrth ymchwilio i adroddiadau o ysbrydion, angenfilod a digwyddiadau anesboniadwy.
Datblygwyd llawer o'r dyfeisiau hyn at ddibenion gwyddonol, peirianyddol neu ddiogelwch. Mae ymchwilwyr paranormal yn eu defnyddio oherwydd eu bod yn gallu canfod newidiadau yn yr amgylchedd nad yw'n hawdd i bobl arsylwi arnyn nhw.
Yr her i ymchwilwyr yw penderfynu a yw darlleniadau anarferol yn dystiolaeth o rywbeth anarferol neu a oes esboniad mwy cyffredin.
Mae Pod REM yn cynnwys synwyryddion sy'n ymateb i newidiadau yn yr amgylchedd electromagnetig o amgylch y ddyfais. Pan fydd y newidiadau hyn yn cael eu canfod, mae'r ddyfais yn goleuo neu'n cynhyrchu synau i rybuddio'r defnyddiwr.
Yn wahanol i gamera neu feicroffon, dydy Pod REM ddim yn recordio delweddau na sain. Yn hytrach, mae'n canfod newidiadau yn yr amgylchedd electromagnetig o amgylch y ddyfais.
Mae rhai ymchwilwyr yn credu y gall tarfu anesboniadwy yn y maes electromagnetig o amgylch Pod REM fod yn arwydd o bresenoldeb rhywbeth gerllaw.
Mae'r ddyfais yn aml yn cael ei gosod mewn lleoliadau lle mae adroddiadau am weithgaredd anarferol wedi'i chofnodi, a'i adael i fonitro'r amgylchedd.
Yn wahanol i sain, golau neu dymheredd, dydy bodau dynol ddim yn gallu synhwyro meysydd electromagnetig yn uniongyrchol.
Mae hyn yn golygu y gall ymchwilwyr wybod pan fydd y ddyfais wedi canfod newid, ond fyddan nhw ddim yn gallu penderfynu ar unwaith beth achosodd y newid hwnnw.
O ganlyniad, gall dehongli sbardunau Pod REM fod yn heriol a bydd angen tystiolaeth ychwanegol.
Mae achosion posib yn cynnwys:
Mae'n bwysig nodi ei bod yn bosib na fydd ffynhonnell y tarfu bob amser wedi'i lleoli'n uniongyrchol wrth ymyl y Pod REM. Gall signalau di-wifr ac ymyrraeth electromagnetig darddu o rywle arall yn yr amgylchedd cyfagos.
Gall Pod REM ddweud fod rhywbeth wedi newid, ond dydy e ddim yn gallu dweud beth achosodd y newid.
Mae camera delweddu thermol yn canfod ymbelydredd is-goch, sy'n cael ei allyrru gan bob gwrthrych sydd â thymheredd uwchlaw sero absoliwt.
Mae faint o ymbelydredd is-goch sy'n cael ei allyrru yn dibynnu ar dymheredd y gwrthrych.
Mae'r camera yn trosi'r wybodaeth hon yn ddelwedd, gan ganiatáu i wahaniaethau mewn tymheredd gael eu delweddu.
Yn wahanol i gamera arferol, dydy camera thermol ddim yn canfod golau gweladwy. Yn hytrach, mae'n canfod egni gwres.
Mae ymchwilwyr paranormal yn aml yn defnyddio camerâu delweddu thermol i chwilio am:
Oherwydd bod camerâu thermol yn gallu gweithio heb olau gweladwy, maen nhw'n ddefnyddiol mewn amgylcheddau tywyll.
Mae bodau dynol yn gallu teimlo'n boeth ac yn oer, ond dydy'n derbynyddion tymheredd ni ddim yn fanwl iawn.
Gall camera thermol ganfod gwahaniaethau tymheredd llawer llai nag unrhyw beth y gall person ei deimlo.
Ond dim ond gwahaniaethau tymheredd sy'n cael eu dangos gan ddelwedd thermol - dydy e ddim yn esbonio beth achosodd y gwahaniaethau hynny.
Mae'n bosib i wahaniaethau tymheredd gael eu hachosi gan:
Mae'n bosib i ardal oer neu gynnes ymddangos yn anarferol, ond mae angen ymchwilio pellach i nodi'r achos.
Gall camera thermol ddangos lle mae'r tymheredd yn wahanol, ond dydy e ddim yn gallu esbonio pam eu bod nhw'n wahanol.
Mae recordydd sain digidol yn defnyddio meicroffon i ganfod tonnau sain a'u trosi'n recordiad digidol.
Yn wahanol i glyw dynol, mae modd ailchwarae recordiadau sawl gwaith, eu dadansoddi'n fanwl, a'u rhannu gydag ymchwilwyr eraill.
Mae hyn yn caniatáu i dystiolaeth gael ei harchwilio'n fwy gofalus yn hytrach na gorfod dibynnu ar y cof yn unig.
Mae ymchwilwyr paranormal yn aml yn defnyddio recordwyr sain i gipio synau na wnaeth neb sylwi arnyn nhw efallai yn ystod ymchwiliad.
Mae rhai ymchwilwyr yn chwilio recordiadau am:
Mae'r recordiadau hyn yn aml yn cael eu hadolygu ar ôl i'r ymchwiliad ddod i ben.
Mae bodau dynol yn dda iawn am adnabod patrymau, gan gynnwys lleferydd.
Weithiau, gall hynny ein harwain i ddehongli synau ar hap fel geiriau neu negeseuon ystyrlon.
Gall gwahanol bobl sy'n gwrando ar yr un recordiad glywed pethau gwahanol.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ymchwilwyr fod yn ofalus i beidio â gadael i ddisgwyliadau ddylanwadu ar sut mae tystiolaeth yn cael ei dehongli.
Gallai esboniadau posib gynnwys:
Mae'n bosib i recordiad gynnwys sain anarferol, ond mae angen tystiolaeth ychwanegol i nodi ei ffynhonnell.
Mae recordiad yn darparu tystiolaeth bod sŵn wedi digwydd, ond dydy e ddim yn datgelu'n awtomatig beth gynhyrchodd y sŵn hwnnw.
Mae synwyryddion yn ymestyn ein galluoedd, ond maen nhw hefyd yn gallu canfod pethau nad ydyn ni'n eu deall yn llawn neu na allwn eu profi'n uniongyrchol. O ganlyniad, rhaid bod yn ofalus a meddwl yn feirniadol wrth ddehongli data synhwyrydd.
Anaml y bydd ymchwilwyr paranormal yn dibynnu ar un darn o offer.
Yn hytrach, maen nhw'n cymharu tystiolaeth a gasglwyd o sawl ffynhonnell cyn dod i gasgliad.
Cofiwch: Mae synwyryddion yn casglu data. Ymchwilwyr sy'n gorfod penderfynu beth mae'r data yn ei olygu.
Ar gyfer pob ffeil achos isod:
Mae ymchwilwyr yn monitro coridor ysbyty segur yn dilyn adroddiadau o weithgaredd rhyfedd ar ôl hanner nos.
Am 02:17, mae Pod REM sydd wedi'i osod ym mhen pellaf y coridor yn sbarduno'n sydyn.
Mae hynny'n digwydd am tua 10 eiliad cyn i'r ddyfais ailddechrau gweithio yn y ffordd arferol.
Mae'r Pod REM yn aros yn yr un lleoliad am weddill yr ymchwiliad ond nid yw'n sbarduno eto.
Mae ymchwilwyr yn adolygu'r dystiolaeth arall a gasglwyd ar yr un pryd:
Mae rheolwr y safle yn adrodd yn ddiweddarach fod mast ffôn symudol gerllaw a bod gwaith cynnal a chadw trydanol yn cael ei wneud mewn mannau eraill yn yr adeilad dros nos.
Mae ymchwilwyr yn cael eu galw i hen faenordy ar ôl i nifer o westeion sôn eu bod nhw'n teimlo'n anghyfforddus yn yr un ystafell wely.
Mae'r gwesteion yn disgrifio:
Yn ystod ymchwiliad dros nos, mae camera delweddu thermol yn cael ei osod yn yr ystafell.
Am tua 01:15, mae'r camera yn recordio ardal oer fawr yn lledaenu'n araf ar draws un wal ac i gornel o'r ystafell.
Mae arsylwadau ychwanegol yn cynnwys y canlynol:
Mae sawl cerddwr yn sôn eu bod nhw wedi gweld ffigwr mawr tywyll yn symud rhwng y coed mewn coetir ychydig ar ôl i'r haul fachlud.
Yn ystod ymchwiliad dros nos, mae tîm yn monitro llannerch sy'n gysylltiedig â rhai o'r adroddiadau.
Am 21:42, mae'r arsylwadau canlynol yn cael eu cofnodi:
Mae ymchwilwyr yn dychwelyd i'r safle fore trannoeth ac yn darganfod olion sawl anifail ger y llannerch. Fodd bynnag, mae tywydd gwael dros nos yn ei gwneud hi'n anodd gwybod pa rywogaethau oedd yn gyfrifol amdanyn nhw.
Mae perchnogion tafarn hanesyddol yn sôn am weithgaredd rhyfedd mewn seler dan glo.
Mae staff yn honni eu bod nhw weithiau'n clywed synau cnocio ar ôl amser cau a bod sawl person wedi dweud iddyn nhw weld ffigwr tywyll ger y wal gefn.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal gan ddefnyddio amrywiaeth o offer, gan gynnwys system gamera Kinect sy'n gallu creu map dyfnder o ystafell ac adnabod ffurfiau dynol.
Cofnodwyd yr arsylwadau canlynol:
19:52
02:07
Mae archwiliad diweddarach o'r seler yn datgelu arwyddion o ddifrod dŵr ac estyll pren pydredig yn cynnal llawer o'r unedau silffoedd.
Ym mhob ymchwiliad, llwyddodd yr offer i gasglu data.
Fodd bynnag, dim ond y cam cyntaf yw casglu data.
Rhaid i ymchwilwyr wneud y canlynol:
Dydy'r ffaith bod synhwyrydd yn canfod rhywbeth anarferol ddim yn golygu bod yr achos yn anarferol.
Mae ymchwilwyr da, fel gwyddonwyr da, yn dilyn y dystiolaeth ble bynnag y mae'n eu harwain.
Trwy gydol y gweithgaredd hwn, rydych chi wedi archwilio sut mae bodau dynol, anifeiliaid a synwyryddion electronig yn casglu gwybodaeth am y byd o'u cwmpas.
Mae ymchwilwyr proffesiynol yn defnyddio ystod o offer arbenigol, ond yn aml, gall peirianwyr ddatrys yr un broblem gan ddefnyddio technoleg symlach.
Mae Micro:Bit y BBC yn cynnwys sawl synhwyrydd integredig sy'n caniatáu iddo gasglu data o'i amgylchedd.
Eich her chi yw dylunio eich dyfais eich hun i ymchwilio i'r paranormal.
Mae'r synwyryddion sydd ar gael yn dibynnu ar ba fersiwn o Micro:Bit sy'n cael ei ddefnyddio.
Os ydych chi'n newydd i raglennu BBC Micro:Bit, neu eisiau sesiwn adolygu - ewch i'n Cyfres Gweithdy Micro:Bit Ar-lein.
Synhwyrydd Symudiadau Bwystfilod: Creu rhaglen sy'n sbarduno rhybudd pan fydd symudiad yn cael ei ganfod.
Monitor Gwylio Liw Nos: Cofnodi lefelau golau dros nos a nodi newidiadau anarferol.
Synhwyrydd Sŵn: Defnyddio meicroffon i fonitro lefelau sain a chofnodi synau uchel sydyn.
Synhwyrydd Anomaledd Cwmpawd: Canfod newidiadau i gyfeiriad magnetig ac ymchwilio i achosion posib.
Mae hefyd yn bosib cysylltu'r Micro:Bit â chydrannau electronig allanol.
Gan ddefnyddio'r adnoddau yn ein Cyfres Gweithdai Electroneg Ar-lein, gallech ehangu eich pecyn ymchwilio drwy ychwanegu:
Pob lwc wrth hela'r ysbrydion!
Reports of strange activity are appearing across the country.
Some people claim they have heard mysterious noises in old buildings. Others report strange shadows, unexplained cold spots, or creatures moving through the darkness.
The Monster Hunter Guild has been tasked with investigating these reports, but stories and eyewitness accounts are not enough. Scientists and investigators need evidence.
As a trainee paranormal investigator, your job is to collect evidence and determine what is really happening.
To do this, you'll need to understand how humans, animals and computers gather information about the world around them.
To investigate unusual events, you first need to understand how humans gather information.
Your body contains specialised receptor cells that detect changes in your surroundings. These receptors respond to different stimuli, such as light, sound, chemicals, temperature and pressure.
The information is sent to the brain, which interprets the data and helps you decide how to respond.
Many people learn about the five main senses, but humans can detect much more than sight, hearing, smell, taste and touch.
For example, receptors in the inner ear help maintain balance, while proprioceptors in muscles and joints help your brain keep track of where different parts of your body are without needing to look at them.
Consider the following situations:
What stimulus is being detected in each scenario?
Which receptors or organs are involved?
Which examples provide information about the outside world?
Which examples provide information about your own body's position and movement?
Investigators receive the following reports from different locations:
Which receptors were used to make each observation?
How reliable is each observation?
What factors might make the observation less reliable?
What additional evidence would help confirm each report?
Consider this range of phenomena:
Which can humans detect naturally?
Which cannot be detected directly?
Why might investigators need specialised equipment?
Humans can detect many different stimuli, but there are limits to what we can sense directly.
Some animals have evolved specialised adaptations that allow them to gather information about their surroundings in ways that humans cannot. These adaptations help them find food, avoid predators, and navigate their environment.
Scientists often study these biological systems when designing new technologies and sensors.
Bats are active at night and often hunt in complete darkness.
Instead of relying on sight, many bats use echolocation. They produce high-frequency sound waves and listen for the echoes that bounce back from nearby objects.
The time taken for the echo to return helps the bat determine:
This allows bats to navigate and catch insects even when there is very little light.
Humans cannot naturally detect these ultrasonic (high-frequency) sounds
Monster Hunter Note: If a creature was hiding in darkness, echolocation could reveal its location without needing to see it directly.
Pit vipers have specialised organs located between their eyes and nostrils.
These organs detect infrared radiation, which is emitted by warm objects.
This allows the snake to:
Humans cannot naturally detect infrared radiation.
Monster Hunter Note: An infrared detector could help investigators identify warm objects or animals hidden in dark environments.
Some sharks can detect very small electrical signals produced by the muscles and nerves of other animals.
Specialised receptors called the Ampullae of Lorenzini are found around the shark's head.
These receptors allow sharks to:
Humans cannot detect electrical fields without specialised equipment.
Monster Hunter Note: If a creature remained hidden but was still alive and moving, electrical signals might reveal its presence.
Several species, including birds and sea turtles, can detect Earth's magnetic field.
This ability helps them:
Although humans cannot directly detect magnetic fields, technologies such as compasses can measure them.
Monster Hunter Note: If reports suggest a creature always appears in the same locations, magnetic field measurements may help investigators identify patterns.
Reindeer live in Arctic environments where snow and ice reflect large amounts of light.
Unlike humans, reindeer can see ultraviolet (UV) light, a type of electromagnetic radiation with a shorter wavelength than visible light.
This ability helps them detect objects that would otherwise blend into the snowy landscape. For example:
Humans cannot see ultraviolet radiation directly, but specialised cameras and sensors can detect it.
Monster Hunter Note: If a creature leaves behind traces that reflect or absorb ultraviolet light, a UV camera might reveal evidence that is invisible to the human eye.
Humans and animals gather information using biological receptors.
Computers cannot see, hear or feel in the same way. Instead, they use sensors.
A sensor is a device that detects a stimulus and converts it into data that a computer can process.
Just as different receptors detect different stimuli, different sensors are designed to collect different types of information.
| Stimulus | Human/Animal Detection | Electronic Sensor |
|---|---|---|
| Visible light | Eye | Camera / Light Sensor |
| Sound | Ear | Microphone |
| Temperature | Temperature receptors | Temperature Sensor |
| Movement | Eyes, inner ear | Motion Sensor / Accelerometer |
| Distance | Eyes, echolocation (bat) | Ultrasonic Sensor |
| Infrared radiation | Pit Viper organs | Infrared Sensor |
| Ultraviolet radiation | Reindeer eyes | UV Sensor |
| Magnetic fields | Sea turtle magnetoreception | Magnetometer / Compass |
| Electrical fields | Shark electroreception | EMF Sensor |
Why might a computer need several different sensors instead of just one?
Different sensors are useful in different situations.
Consider the following investigations.
A witness reports hearing strange noises in an abandoned building.
Which sensor(s) would provide the most useful evidence?
Explain your answer.
Something appears to move through a forest after dark but cannot be seen clearly.
Which sensor(s) would provide the most useful evidence?
Could more than one sensor help?
A creature is believed to leave behind a trail that cannot be seen by the human eye.
Which sensor(s) could help investigators collect evidence?
Explain your reasoning.
A sensor does not tell us what caused an event.
It only records data.
Scientists must analyse the data collected and decide which explanation is best supported by the evidence.
An infrared sensor detects a warm object moving through a field at night.
What information has the sensor actually collected?
What additional evidence would help identify the object?
Why is it important to avoid jumping straight to a conclusion?
Paranormal investigators often use specialist equipment when investigating reports of ghosts, monsters and unexplained events.
Many of these devices were developed for scientific, engineering or safety purposes. Paranormal investigators use them because they can detect changes in the environment that humans cannot easily observe.
The challenge for investigators is deciding whether unusual readings are evidence of something unusual or whether they have a more ordinary explanation.
A REM Pod contains sensors that respond to changes in the electromagnetic environment around the device. When these changes are detected, the device may produce lights or sounds to alert the user.
Unlike a camera or microphone, a REM Pod is not recording an image or sound. Instead, it is detecting changes in the electromagnetic environment around the device.
Some investigators believe that unexplained disturbances in the electromagnetic field around a REM Pod may indicate the presence of something nearby.
The device is often placed in locations where unusual activity has been reported and left to monitor the environment.
Unlike sound, light or temperature, humans cannot directly sense electromagnetic fields.
This means investigators may know that the device has detected a change, but they cannot immediately determine what caused that change.
As a result, interpreting REM Pod activations can be challenging and requires additional evidence.
Possible causes include:
Importantly, the source of a disturbance may not always be located directly beside the REM Pod. Wireless signals and electromagnetic interference can originate from elsewhere in the surrounding environment.
A REM Pod can tell us that something has changed, but it cannot tell us what caused the change.
A thermal imaging camera detects infrared radiation, which is emitted by all objects with a temperature above absolute zero.
The amount of infrared radiation emitted depends on the temperature of the object.
The camera converts this information into an image, allowing differences in temperature to be visualised.
Unlike a normal camera, a thermal camera does not detect visible light. It detects heat energy.
Paranormal investigators often use thermal imaging cameras to search for:
Because thermal cameras can operate without visible light, they are useful in dark environments.
Humans can feel hot and cold, but our temperature receptors are not very precise.
A thermal camera can detect much smaller temperature differences than a person can feel.
However, a thermal image only shows temperature differences - it does not explain what caused those differences.
A temperature difference could be caused by:
A cold or warm area may appear unusual, but further investigation is needed to identify the cause.
A thermal camera can show where temperatures are different, but it cannot explain why they are different.
A digital audio recorder uses a microphone to detect sound waves and convert them into a digital recording.
Unlike human hearing, recordings can be replayed multiple times, analysed in detail, and shared with other investigators.
This allows evidence to be examined more carefully than relying on memory alone.
Paranormal investigators often use audio recorders to capture sounds that may not have been noticed during an investigation.
Some investigators search recordings for:
These recordings are often reviewed after the investigation has ended.
Humans are very good at recognising patterns, including speech.
Sometimes this can lead us to interpret random sounds as meaningful words or messages.
Different people listening to the same recording may hear different things.
This means investigators must be careful not to let expectations influence how evidence is interpreted.
Possible explanations include:
A recording may contain an unusual sound, but additional evidence is needed to identify its source.
A recording provides evidence that a sound occurred, but it does not automatically reveal what produced the sound.
Sensors extend our abilities, but they can also detect things that we don't fully understand or cannot experience directly. Therefore, interpreting sensor data requires caution and critical thinking.
Paranormal investigators rarely rely on a single piece of equipment.
Instead, they compare evidence collected from multiple sources before reaching a conclusion.
Remember: Sensors collect data. Investigators must decide what the data means.
For each case file below:
Investigators are monitoring a disused hospital corridor following reports of strange activity after midnight.
At 02:17, a REM Pod placed at the far end of the corridor suddenly activates.
The activation lasts for approximately 10 seconds before the device returns to normal.
The REM Pod remains in the same location for the rest of the investigation but does not activate again.
Investigators review the other evidence collected at the same time:
The site manager later reports that a mobile phone mast is located nearby and that electrical maintenance work was being carried out elsewhere in the building overnight.
Investigators are called to an old manor house after several guests report feeling uncomfortable in the same bedroom.
Guests describe:
During an overnight investigation, a thermal imaging camera is placed in the room.
At approximately 01:15, the camera records a large cold area spreading slowly across one wall and into a corner of the room.
Additional observations include:
Several walkers report seeing a large dark figure moving between the trees in a woodland area shortly after sunset.
During an overnight investigation, a team monitors a clearing where sightings have been reported.
At 21:42, the following observations are recorded:
Investigators return to the site the following morning and discover several animal tracks near the clearing. However, poor weather overnight makes it difficult to determine which species made them.
The owners of a historic pub report strange activity in a locked cellar.
Staff claim that they sometimes hear knocking sounds after closing time and that several people have reported seeing a shadowy figure near the back wall.
An investigation is carried out using a range of equipment, including a Kinect camera system that can create a depth map of a room and identify human-shaped figures.
The following observations are recorded:
19:52
02:07
A later inspection of the cellar reveals signs of water damage and rotting wooden supports around several shelving units.
In each investigation, the equipment successfully collected data.
However, collecting data is only the first step.
Investigators must:
Just because a sensor detects something unusual does not mean the cause is unusual.
Good investigators, like good scientists, follow the evidence wherever it leads.
Throughout this activity, you have explored how humans, animals and electronic sensors collect information about the world around them.
Professional investigators use a range of specialist equipment, but engineers can often solve the same problem using simpler technology.
The BBC micro:bit contains several built-in sensors that allow it to collect data from its surroundings.
Your challenge is to design your own paranormal investigation device.
The sensors available depend on the version of micro:bit being used.
If you are new to, or would like to revise, how to program a BBC Micro:Bit - visit our Online Micro:Bit Workshop Series
Monster Movement Detector: Create a program that triggers an alert when movement is detected.
Night Watch Monitor: Record light levels overnight and identify unusual changes.
Noise Detector: Use the microphone to monitor sound levels and record sudden loud noises.
Compass Anomaly Detector: Detect changes in magnetic direction and investigate possible causes.
The Micro:Bit can also be connected to external electronic components.
Using the resources in our Online Electronics Series, you could expand your investigation kit by adding:
Good Luck Hunting Ghosts!