Mae gan Cownt Calcwlws broblem.
Ers canrifoedd, mae wedi honni bod ei glogyn godidog yn caniatáu iddo hedfan yn dawel drwy'r awyr yn y nos.
Mae gwyddonwyr lleol yn amheus.
Maen nhw'n tybio bod Cownt Calcwlws yn drysu rhwng "hedfan" a "disgyn mewn steil".
Tybed ydy ffiseg yn gallu helpu i ddatrys y ddadl?
Yn y gweithgaredd hwn, fe fyddwch chi'n defnyddio ffiseg i roi honiad Cownt Calcwlws ar brawf. Fe fyddwch chi'n ymchwilio i'r grymoedd sy'n gysylltiedig â hedfan, yn cymharu ei glogyn ag anifeiliaid sy'n gleidio a gwisgoedd asgellog, ac yn penderfynu a fyddai hi wir yn bosib i fampir gleidio drwy'r nos.
Mae Cownt Calcwlws yn honni:
"Mae fy nghlogyn i'n caniatáu i fi hedfan rhwng pentrefi heb gyffwrdd â'r ddaear."
Cyn ymchwilio i'r wyddoniaeth, mae'n amser i chi ddarogan.
Ydych chi'n meddwl bod hyn yn bosib?
Pam?
Pa mor hyderus ydych chi o'ch ateb?
Pa dystiolaeth fyddai'n eich helpu i benderfynu?
Cyn i ni allu ymchwilio i honiad Cownt Calcwlws, mae angen i ni ddeall y grymoedd sy'n effeithio ar unrhyw beth sy'n symud drwy'r awyr.
Mae'r un grymoedd yn berthnasol i aderyn, person mewn gwisg asgellog, gwiwer hedegog neu fampir.
Pwysau yw'r grym sy'n cael ei greu pan fydd disgyrchiant yn tynnu ar fàs gwrthrych.
Po fwyaf yw màs gwrthrych, y mwyaf yw ei bwysau mewn maes disgyrchol penodol.
Mae pwysau'n gweithredu tuag at ffynhonnell disgyrchiant.
Meddyliwch am y peth:
Os mai pwysau fyddai'r unig rym i effeithio ar Cownt Calcwlws, beth fyddai'n digwydd?
Grym sy'n cael ei gynhyrchu pan fydd gwrthrych yn symud drwy'r awyr yw codiant.
Mae codiant yn gweithredu'n berpendicwlar i'r llif aer ac mae'n gallu helpu i wrthwynebu grym pwysau.
Mae maint, siâp a chyflymder gwrthrych yn gallu effeithio ar faint o godiant sy'n cael ei gynhyrchu.
Grym sy'n cael ei achosi gan wrthiant aer yw llusgiad.
Mae'n gweithredu yn groes i gyfeiriad y symudiad drwy'r awyr.
Mae gwrthrychau ag arwynebedd mwy fel arfer yn profi mwy o lusgiad.
Grym sy'n gwthio gwrthrych ymlaen yw gwthiad.
Mae adar yn creu gwthiad drwy guro eu hadenydd. Mae awyrennau yn creu gwthiad drwy ddefnyddio peiriannau. Mae rocedi yn creu gwthiad drwy allyrru nwyon ar gyflymder uchel.
Mae rhai gwrthrychau yn cynhyrchu gwthiad yn barhaus, tra bod eraill yn profi gwthiad am gyfnod byr yn unig.
Meddyliwch am y peth:
Pan fydd Cownt Calcwlws yn neidio o dŵr castell, mae'n gwthio oddi ar y wal.
Pa rym sy'n gwneud iddo symud ymlaen yn y lle cyntaf?
Pam na fydd y symudiad ymlaen hwn yn parhau i gynyddu am byth?
Oeddech chi'n gwybod?
Awyren heb injan yw gleider a dydy hi ddim yn cynhyrchu gwthiad parhaus. Yn hytrach, mae'n symud ymlaen drwy drosi uchder yn symudiad wrth iddi ddisgyn yn raddol.
Wrth i chi weithio drwy'r gweithgaredd hwn, meddyliwch am y gwahaniaeth rhwng:
Hedfan: aros yn yr awyr gan ddefnyddio ffynhonnell barhaus o wthiad a chodiant.
Gleidio: symud drwy'r awyr heb wthiant parhaus tra'n colli uchder yn raddol.
Ydy Cownt Calcwlws yn hedfan go iawn, neu'n gleidio mewn steil?
Nid Cownt Calcwlws yw'r unig greadur sy'n teithio drwy'r awyr yn hedfan heb bŵer.
Mae gwyddonwyr yn aml yn astudio natur i ddeall sut mae creaduriaid byw yn datrys problemau. Drwy ymchwilio i anifeiliaid sy'n gleidio, gallwn chwilio am nodweddion a fyddai'n gallu helpu Cownt Calcwlws i wella ei glogyn.
Er gwaethaf ei henw, dydy gwiwerod hedegog ddim yn hedfan mewn gwirionedd.
Maen nhw'n gleidio o un goeden i'r llall gan ddefnyddio llabed o groen o'r enw patagium, sy'n ymestyn rhwng eu coesau blaen a'u coesau ôl.
Mae gwiwerod hedegog yn gallu teithio'n rhyfeddol o bell gan golli uchder yn raddol.
Meddyliwch am y peth:
Pa rym sy'n cael ei gynyddu gan y patagium i ganiatáu i wiwerod hedegog aros yn yr awyr yn hirach?
Mae gan fadfallod Draco bilenni tebyg i adenydd wedi'u cynnal gan asennau hirgul.
Pan fyddan nhw'n ymledu, mae'r pilenni hyn yn cynyddu arwynebedd y fadfall ac yn ei helpu i gleidio.
Mae madfallod Draco yn gallu llywio a rheoli sut maen nhw'n disgyn.
Meddyliwch am y peth:
Pam mae madfall Draco yn gallu llywio wrth hedfan, o'i gymharu â gwiwer hedegog?
Does dim adenydd o gwbl gan nadroedd hedegog.
Pan maen nhw'n neidio o goed, maen nhw'n gwastatáu eu cyrff ac yn symud drwy'r awyr mewn ffordd sy'n eu helpu i deithio llawer pellach na chwymp arferol.
Mae gwyddonwyr wedi darganfod bod nadroedd hedegog yn gallu rheoli eu symudiad drwy'r awyr er nad oes ganddyn nhw adenydd.
Meddyliwch am y peth:
Pam mae cynnydd bach o ran arwynebedd yn dal i wneud gwahaniaeth mawr wrth i neidr hedegog symud drwy'r awyr?
Dydy bodau dynol ddim yn gallu hedfan yn naturiol.
Yn wahanol i adar, ystlumod a phryfed, does gan bobl ddim adenydd. Fodd bynnag, mae peirianwyr wedi dylunio offer sy'n caniatáu i bobl gleidio drwy'r awyr.
Fyddai'r dyfeisiadau hyn yn gallu cynnig ambell gliw am glogyn Cownt Calcwlws?
Siwt arbennig yw gwisg asgellog gyda defnydd yn ymestyn rhwng y breichiau, y corff a'r coesau.
Mae'r wisg yn cynyddu arwynebedd y sawl sy'n hedfan ac yn newid sut mae aer yn symud o'i gwmpas.
Gall hedfanwr mewn gwisg asgellog deithio'n bell yn llorweddol tra'n colli uchder yn raddol.
Meddyliwch am y peth:
Sut mae gwisg asgellog yn wahanol i glogyn?
Mae adenydd mawr o ffurf arbennig gan gleider, ond dim injan.
Yn hytrach na chynhyrchu gwthiad parhaus, mae'n colli uchder yn raddol wrth deithio ymlaen.
Mae rhai gleiderau'n gallu teithio am gilometrau lawer heb golli fawr ddim uchder.
Meddyliwch am y peth:
Pam mae gleider yn gallu teithio llawer ymhellach na rhywun mewn gwisg asgellog?
Mae arwynebedd mawr iawn gan barasiwtiau.
Maen nhw wedi'u cynllunio'n bennaf i arafu'r raddfa mae person yn disgyn yn hytrach na theithio am ymlaen.
Mae parasiwtiau yn cynyddu llusgiad yn fawr, gan arafu'r cyflymder cwympo.
Meddyliwch am y peth:
Ym mha ffordd allai clogyn Cownt Calcwlws weithredu'n debycach i barasiwt?
Pa ddyfais ddynol sy'n fwyaf tebyg i glogyn Cownt Calcwlws?
Pa un fyddai'n caniatáu i rywun deithio bellaf?
Pa un fyddai'n cynnig y ffordd fwyaf diogel o lanio?
Pa nodwedd sydd gan wisgoedd asgellog a gleiderau sydd ar goll mewn clogyn arferol?
Hyd yn hyn, rydych chi wedi ymchwilio i'r grymoedd sy'n gysylltiedig â hedfan ac wedi archwilio sut mae anifeiliaid a phobl yn gleidio drwy'r awyr.
Mae gwyddonwyr yn defnyddio mesuriadau a chyfrifiadau i brofi eu syniadau. Gadewch i ni weld beth mae'r dystiolaeth yn ei ddweud am glogyn Cownt Calcwlws.
Pwysau (W) yw'r grym sy'n cael ei roi ar fàs (m) gan ddisgyrchiant (g). Ar y Ddaear, cryfder y maes disgyrchol yw tua 9.8N/kg.
Mae gwyddonwyr yn cyfrifo pwysau gan ddefnyddio'r hafaliad:
Pwysau (W) = Màs (m) × Cryfder Maes Disgyrchol (g)
Pan fydd Cownt Calcwlws yn camu oddi ar y tŵr am y tro cyntaf, mae ei bwysau tuag i lawr yn fwy na grym y llusgiad tuag i fyny (W > D), gan greu grym cydeffaith sy'n achosi iddo gyflymu tuag i lawr. Wrth i'w gyflymder gynyddu, mae gwrthiant aer yn cynyddu nes bod y llusgiad tuag i fyny yn hafal i'w bwysau tuag i lawr (D = W). Ar y pwynt hwn, y grym cydeffaith yw 0N, ac mae'n cyrraedd cyflymder (felosedd) terfynol.
Cyn neidio, mae Cownt Calcwlws yn meddu ar egni potensial disgyrchol (Ep) oherwydd ei uchder uwchlaw'r ddaear. Wrth iddo ddisgyn, mae'r storfa egni hon yn cael ei drosglwyddo:
Ep = mgh
Lle mae:
Mewn gwactod delfrydol, fe fyddai'r holl Ep yn trosglwyddo i'r storfa egni cinetig (Ek). Fodd bynnag, yn ystod gleidio, mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yn mynd yn groes i'r gwrthiant aer. Mae cyfran sylweddol o'r Ep cychwynnol yn cael ei drosglwyddo i storfa egni thermol yr amgylchfyd..
Mae cymhareb gleidio yn disgrifio pellter llorweddol am ymlaen (x) y daith ar gyfer pob uned o gwymp fertigol (y). Mae'n cynrychioli'r gymhareb o bellter am ymlaen i'r uchder sy'n cael ei golli.
Enghraifft: Mae cymhareb gleidio o 10:1 yn golygu bod gleider yn teithio 10m yn llorweddol ar gyfer pob 1m o gwymp fertigol.
Data Senario:
Cyfrifwch bwysau Cownt Calcwlws mewn Newtonau (N).
Dyma'r gymhareb gleidio ar gyfer y tair dyfais ddynol y cyfeiriwyd atyn nhw uchod.
| Technoleg | Cymhareb Gleidio Nodweddiadol |
|---|---|
| Parasiwt | 1:1 |
| Gwisg asgellog | 3:1 |
| Gleider (barcuta) | 30:1 |
Cyfrifwch y pellter llorweddol uchaf y gallai Cownt Calcwlws ei deithio wrth neidio o uchder o 100m pe bai ei glogyn yn perfformio fel:
Pan fydd Cownt Calcwlws yn cyrraedd cyflymder terfynol yn ystod gleidio cyson, beth yw gwerth y grym cydeffaith sy'n effeithio arno? Esboniwch eich ateb yn nhermau deddf gyntaf mudiant Newton.
Gwerthuswch a allai Cownt Calcwlws gyrraedd y pentref nesaf yn llwyddiannus gan ddefnyddio ei glogyn yn unig.
Yn eich ateb, dylech:
Mae Cownt Calcwlws eisiau ailgynllunio ei glogyn yn seiliedig ar ffiseg codiant, llusgiad a chymarebau agwedd er mwyn gallu gleidio cyn belled ag sy'n bosib.
Eich tasg chi yw gweithio fel ymgynghorydd aerodynamig i ddylunio, creu prototeip a gwerthuso dyluniad gwell yn wyddonol.
Wrth optimeiddio awyren neu gleider heb bŵer, rhaid i beirianwyr gydbwyso newidynnau ffisegol allweddol:
Cymhareb agwedd:Cymhareb agwedd = (lle mai b yw lled yr adenydd ac S yw arwynebedd yr adenydd). Mae adenydd gyda chymhareb agwedd uchel (hir a cul, fel gleiderau) yn lleihau llusgiad cymelledig, tra bod adenydd cymhareb agwedd isel (byr a llydan) yn cynnig hydrinedd ond llusgiad uwch.
Proffil a chambr adenydd: Llunio arwyneb i greu gwasgedd differol (egwyddor Bernoulli) i gynhyrchu codiant cadarnhaol.
Anhyblygedd strwythurol: Atal y ffabrig rhag ysgwyd neu ildio o dan lwyth aerodynamig, sy'n cynyddu llusgiad tyrfol yn sylweddol.
Craidd màs v craidd codiant: Sicrhau bod y craidd màs ychydig ymlaen o'r craidd codiant er mwyn cynnal sefydlogrwydd symudiadau hydredol wrth gleidio.
I brofi eich dyluniad, adeiladwch fodel i raddfa gan ddefnyddio ffigur chwarae, model crefft neu brif lwyth màs (m).
Newidynnau Angenrheidiol:
Newidyn Annibynnol: Nodwedd dylunio clogyn (e.e., arwynebedd, cymhareb agwedd neu anhyblygedd ffrâm).
Newidyn Dibynnol: Amser disgyn (t) neu ddadleoliad llorweddol (x).
Newidynnau Rheoli: Uchder lansio (h), màs prif lwyth (m), dull gollwng, ac amodau amgylcheddol (ceryntau aer).
Damcaniaeth a Newidynnau:
Ansicrwydd a Mesur:
Mae amser ymateb wrth ddefnyddio watsh amseru yn cyflwyno hapgyfeiliornad. Os yw'ch amseroedd disgyn mesuredig ar gyfer tri phrawf yn 1.42s, 1.58s, a 1.48s:
a) Cyfrifwch yr amser disgyn cymedrig.
b) Cyfrifwch ansicrwydd (Ystod / 2) y mesuriadau hyn.
Asesiad Risg:
Lluniwch dabl Asesiad Risg 3 colofn safonol ar gyfer yr ymarfer hwn (yn nodi Perygl, Risg/Niwed, a Mesur Rheoli).
Cwestiwn Gwerthuso (Dadansoddiad Peirianyddol):
Esboniwch pam y byddai ychwanegu cynhalbyst hyblyg ysgafn (fel estyll gwydr ffibr neu ffibr-carbon) ar hyd ymyl flaen y clogyn yn gwella ei berfformiad gleidio yn sylweddol o'i gymharu â ffabrig rhydd yn unig. Cyfeiriwch at lusgiad, arwynebedd ac uniondeb strwythurol yn eich ymateb.
Count Calculus has a problem.
For centuries, he has claimed that his magnificent cloak allows him to soar silently through the night sky.
Local scientists are unconvinced.
They suspect Count Calculus is confusing "flying" with "falling stylishly".
Can physics help settle the argument?
In this activity, you'll use physics to test Count Calculus' claim. You'll investigate the forces involved in flight, compare his cloak to real gliding animals and wingsuits, and decide whether a vampire could really glide through the night.
Count Calculus claims:
"My cloak allows me to fly between villages without ever touching the ground."
Before investigating the science, make your prediction.
Do you think this is possible?
Why?
How confident are you in this answer?
What evidence would help you decide?
Before we can investigate Count Calculus' claim, we need to understand the forces acting on anything that moves through the air.
Whether it's a bird, a wingsuit flyer, a flying squirrel or a vampire, the same forces apply.
Weight is the force created when gravity pulls on an object's mass.
The greater an object's mass, the greater its weight in a given gravitational field.
Weight acts towards the source of gravity.
Think about it:
If weight was the only force acting on Count Calculus, what would happen?
Lift is a force produced when an object moves through the air.
Lift acts perpendicular to the airflow and can help oppose the force of weight.
The size, shape and speed of an object can affect how much lift is produced.
Drag is a force caused by air resistance.
Drag acts opposite to the direction of motion through the air.
Objects with a larger surface area usually experience more drag.
Thrust is a force that pushes an object forwards.
Birds create thrust by flapping their wings. Aircraft create thrust using engines. Rockets create thrust by expelling gases at high speed.
Some objects produce thrust continuously, while others only experience thrust for a short time.
Think about it:
When Count Calculus jumps from a castle tower, he pushes off the wall.
What force gives him his initial forward motion?
Why won't this forward motion continue increasing forever?
Did you know?
A glider has no engine and produces no continuous thrust. Instead, it moves forwards by converting height into motion as it gradually descends.
As you work through this activity, think about the difference between:
Flying: staying airborne using a continuous source of thrust and lift.
Gliding: moving through the air without continuous thrust while gradually losing height.
Could Count Calculus really be flying, or is he simply gliding with style?
Count Calculus is not the only creature that travels through the air without powered flight.
Scientists often study nature to understand how living things solve problems. By investigating real gliding animals, we can look for features that might help Count Calculus improve his cloak.
Despite their name, Flying Squirrels do not truly fly.
They glide between trees using a flap of skin called a patagium, stretched between their front and back limbs.
Flying Squirrels can travel surprisingly large distances while gradually losing height.
Think about it:
Which force does the patagium increase that allows the Flying Squirrel to stay in the air longer?
Draco lizards have wing-like membranes supported by elongated ribs.
When spread out, these membranes increase the lizard's surface area and help it glide.
Draco lizards can steer and control their descent.
Think about it:
Why can a Draco Lizard steer its flight compared with a Flying Squirrel?
Flying snakes have no wings at all.
When they leap from trees, they flatten their bodies and move through the air in a way that helps them travel much further than a simple fall.
Scientists have found that flying snakes can control their movement through the air despite having no wings.
Think about it:
Why might a small increase in surface area still make a big difference to how a Flying Snake moves through the air?
Humans cannot fly naturally.
Unlike birds, bats, and insects, we do not have wings. However, engineers have designed equipment that allows people to glide through the air.
Could these inventions provide clues about Count Calculus' cloak?
A wingsuit is a special suit with fabric stretched between the arms, body and legs.
This increases the surface area of the flyer and changes how air moves around them.
Wingsuit flyers can travel long distances horizontally while gradually losing height.
Think about it:
How is a wingsuit different from a cloak?
A glider has large specially-shaped wings but no engine.
Instead of producing continuous thrust, it gradually loses height while travelling forwards.
Some gliders can travel many kilometres while descending only a small amount.
Think about it:
Why might a glider travel much further than a wingsuit flyer?
Parachutes have a very large surface area.
They are designed mainly to slow a person's descent rather than help them travel forwards.
Parachutes greatly increase drag, reducing falling speed.
Think about it:
In what way might Count Calculus' cloak behave more like a parachute?
Which human invention is most similar to Count Calculus' cloak?
Which would allow someone to travel furthest?
Which would provide the safest landing?
What feature do wingsuits and gliders have that a normal cloak does not?
So far, you've investigated the forces involved in flight and explored how animals and humans glide through the air.
Scientists use measurements and calculations to test their ideas. Let's see what the evidence tells us about Count Calculus' cloak.
Weight (W) is the force exerted on a mass (m) by gravity (g). On Earth, the gravitational field strength is approximately 9.8N/kg.
Scientists calculate weight using the equation:
Weight (W) = Mass (m) × Gravitational Field Strength (g)
When Count Calculus first steps off the tower, his downward weight is greater than the upward drag force (W > D), creating a resultant force that causes him to accelerate downward. As his speed increases, air resistance increases until the upward drag equals his downward weight (D = W). At this point, the resultant force is 0N, and he reaches terminal velocity.
Before launching, Count Calculus possesses Gravitational Potential Energy (Ep) due to his height above the ground. As he descends, this energy store is transferred:
Ep = mgh
Where:
In an ideal vacuum, all Ep would transfer into the kinetic energy store (Ek). However, during a glide, work is done against air resistance. A significant portion of his initial Ep is transferred to the thermal energy store of the surroundings.
A glide ratio describes the forward horizontal distance (x) traveled for every unit of vertical descent (y). It represents the ratio of forward distance to altitude lost.
Example: A glide ratio of 10:1 means a glider travels 10m horizontally for every 1m of vertical descent.
Scenario Data:
Calculate Count Calculus' weight in Newtons (N).
Here is the glide ratio for the three human inventions previously mentioned.
| Technology | Typical Glide Ratio |
|---|---|
| Parachute | 1:1 |
| Wingsuit | 3:1 |
| Hang-Glider | 30:1 |
Calculate the maximum horizontal distance Count Calculus could cover from a 100m drop if his cloak performed like:
When Count Calculus reaches terminal velocity during a steady glide, what is the value of the resultant force acting on him? Explain your answer in terms of Newton's First Law of Motion.
Evaluate whether Count Calculus can successfully reach the next village using only his cloak.
In your answer, you should:
Count Calculus wants to redesign his cloak based on the physics of lift, drag, and aspect ratios to maximize his glide distance.
Your task is to work as an aerodynamic consultant to design, prototype, and scientifically evaluate an improved design.
When optimizing an unpowered aircraft or glider, engineers must balance key physical variables:
Aspect Ratio:Aspect Ratio = (where b is wingspan and S is wing area). High aspect ratio wings (long and narrow, like gliders) minimize induced drag, whereas low aspect ratio wings (short and broad) offer maneuverability but higher drag.
Aerofoil Profile & Camber: Shaping a surface to create a pressure differential (Bernoulli's principle) to generate positive lift.
Structural Rigidity: Preventing the fabric from flapping or collapsing under aerodynamic load, which dramatically increases turbulent drag.
Center of Mass vs. Center of Lift: Ensuring the center of mass sits slightly forward of the center of lift to maintain longitudinal pitch stability during a glide.
To test your design, construct a scaled model using an action figure, craft model, or mass payload (m).
Required Variables:
Independent Variable: Cloak design feature (e.g., surface area, aspect ratio, or frame rigidity).
Dependent Variable: Drop time (t) or horizontal displacement (x).
Control Variables: Launch height (h), payload mass (m), drop method, and environmental conditions (air currents).
Hypothesis & Variables:
Uncertainty & Measurement:
Reaction time when using a manual stopwatch introduces random error. If your measured drop times for three trials are 1.42s, 1.58s, and 1.48s:
a) Calculate the mean drop time.
b) Calculate the uncertainty (Range / 2) of these measurements.
Risk Assessment:
Construct a standard 3-column Risk Assessment table for this practical (identifying Hazard, Risk/Harm, and Control Measure).
Evaluation Question (Engineering Analysis):
Explain why adding lightweight flexible stays (such as fiberglass or carbon-fiber battens) along the leading edge of the cloak would significantly improve its glide performance compared to loose fabric alone. Refer to drag, surface area, and structural integrity in your response.