English

Gwnewch Eich Ystlum Pom-Pom Eich Hun

Deunyddiau ac Offer:

  • Cardfwrdd trwchus
  • Cwmpawd gyda phensil (y math sy'n tynnu llun cylchoedd)
  • Siswrn
  • Gwlân du
  • Gwn glud neu PVA
  • Llygaid gwgli
  • Papur/cerdyn du

Canllaw cam wrth gam

  1. Mynnwch ddarn o gardfwrdd sydd yn mesur o leiaf 10cm x 10cm. Yr ydym yn argymell defnyddio darnau o focs cardfwrdd safonol ar gyfer hyn.
  2. Gan ddefnyddio par o gwmpodau, tynnwch gylch o ddiamedr 8cm, gyda chylch arall yn y canol o ddiamedr 5cm.

  3. Yn ofalus, torrwch o gwmpas y ddau gylch i ffurfio siâp donut cardfwrdd.

  4. Bydd angen i chi wneud pelen o wlân fydd yn ffitio trwy'r donut. O wneud hyn, byddwch yn llai tebygol o gael clymau a chnotiau yn y gwlân.

  5. Yna bydd arnoch angen llinyn clymu. Darn arall o wlân yw hwn 0.5m o hyd. I wneud hyn yn haws i'w weld, defnyddiwch liw gwahanol i'r pompom.

  6. Dechreuwch lapio'r belen o wlân o gwmpas y cerdyn a'r llinyn clymu. Gweler y ddelwedd ar y dde.

  7. Yn awr, daliwch ati i lapio'r gwlân rownd a rownd nes bod y donut wedi ei orchuddio'n llwyr. Os daw'r gwlân i ben, gwnewch belen fechan arall a dal ymlaen gyda honno.

  8. Nawr dyma'r darn ffidli. Rhowch lafnau siswrn yn ofalus rhwng y gwlân a'r cerdyn.

  9. Gan ddal pennau'r llinyn clymu yn dynn, dechreuwch dorri'r gwlân yn ofalus ar hyd yr ymyl allanol. Efallai y bydd arnoch angen help i wneud yn siŵr fod yr edefynnau sydd newydd eu torri yn aros yn eu lle nes eu bod oll wedi eu torri, a thynhewch y llinyn clymu yn llawn.

  10. Unwaith i'r holl edefynnau o gwmpas y donut gael eu torri, tynnwch y llinyn clymu mor dynn ag sydd modd o'u cwmpas oll a gwnewch gwlwm i'w dal i gyd at ei gilydd. Twtiwch bennau'r llinyn clymu yn agos at y cwlwm i'w cuddio yn y pompom.

  11. Fe wnaeth f'un i ddisgyn yn ddarnau! Beth wna'i nawr?

    Peidiwch â phoeni os bydd hyn yn digwydd. Gorffennwch dorri'r holl ffordd o gwmpas yna casglu'r holl edefynnau at ei gilydd yn fwndel. Cymerwch eich llinyn clymu a'i lapio o gwmpas canol y bwndel. Tynnwch ef mor dynn ag y gallwch a gwneud cwlwm i ddal y cyfan at ei gilydd.

  12. Symudwch y cardfwrdd a gwasgaru'r edefynnau ar siâp pêl. Os oes edefyn yn sticio allan yn rhy bell, trimiwch ef. Peidiwch â thynnu'r edefyn allan gan y bydd yn llacio gafael y llinyn clymu. Os tynnwch allan ormod o edefynnau bydd y pompom yn disgyn yn ddarnau.

  13. Nawr gludwch lygaid googly ac adenydd wedi'u gwneud o bapur/cardbord du.

Cymraeg

Make Your Own Pom-pom Bat

Materials and Equipment:

  • Thick cardboard
  • Compass with pencil (the sort that draws circles)
  • Scissors
  • Black wool
  • Glue gun or PVA
  • Goggly eyes
  • Black paper/card

Step-by-step Guide

  1. Get a piece of cardboard that is at least 10cm x 10cm. We recommend using sections of a standard cardboard box for this.
  2. Using a pair of compasses, draw out a circle of diameter 8cm, with another circle in the centre of diameter 5cm.

  3. Carefully cut around both circles to form a cardboard donut shape.

  4. You need to make a ball of wool that will fit through the donut. Doing this will mean you are less likely to get knots and tangles in the wool.

  5. Then you will need a tie strand. This is another piece of wool 0.5m long. To make this easier to see, use a different colour to the pom-pom.

  6. Start wrapping the ball of wool around the card and the tie strand. See image on right.

  7. Now keep wrapping the wool around and around until the donut is completely covered. If you run out of wool, make yourself another small ball and continue with that instead.

  8. Now for the fiddly bit. Carefully insert a pair of scissors between the wool and the card.

  9. Whilst keeping a tight hold on the ends of the tie thread, carefully start cutting the wool along the outside edge. You may need assistance to make sure the newly cut strands stay in place until all are cut, and the tie thread tightened fully.

  10. Once all the threads around the donut have been cut, pull the tie thread as tight as possible around them all and tie a knot in to hold it all together. Trim the tie-thread ends close to the knot to hide them in the pom-pom.

  11. Mine all fell apart! What do I do?

    Don't worry if this happens. Just finish cutting all the way around then gather all the threads together into a bundle. Retrieve your tie thread and wrap it around the centre of the bundle. Pull it as tight as you can and tie a knot to hold it all together.

  12. Remove the cardboard and spread out the threads into a ball shape. Is a strand is sticking out too far, trim it. Do not pull the strand out as it will loosen the hold of the tie thread. Remove too many threads and the pom-pom will fall apart.

  13. Now stick on googly eyes and wings made from black paper/card.