
Ymysg eira swynol Rhyd-y-Rhew, lle mae'r clychau iâ'n canu'n hudolus a'r plu eira'n sibrwd yn llawn hud a lledrith, mae corrach o'r enw Glim yn byw - Peiriannydd y Gaeaf.
Mae Glim yn wahanol i'r corachod eraill sydd yn treulio eu dyddiau yn sledio a sipio diod dail pinwydd. Mae'n grefftwr, adeiladwr a breuddwydiwr.
Ond, y gaeaf hwn, mae trychineb wedi digwydd.
Mae Bwystfil Eira'r Gogledd wedi deffro o'i gwsg gaeafol. Gyda phob anadl, mae'n rhewi pethau Nadoligaidd y pentref - anrhegion, lanternau, hyd yn oed y pwdin ar gyfer Gwledd yr Heuldro. Mae Glim wedi trïo popeth: menig hud, corachod ffug ar ben slediau, hyd yn oed trap wedi'i orchuddio ag eira. Doedd dim byd yn gweithio.
Nawr, mae Glim angen dy gymorth di.
Mae Glim wedi pori drwy archifau ei deulu er mwyn dod o hyd i ddatrysiad. Mewn hen lyfr llychlyd wedi ei orchuddio ag iâ, daeth o hyd i gynllun hynafol ar gyfer catapwlt peli eira a chafodd ei ddefnyddio yn y Rhyfel Eira.
Mae'r cynllun yn glir. Mae'r cyfarwyddiadau yno o hyd. Ond mae'r manylion pwysicaf - sef y mesuriadau - wedi diflannu dros y blynyddoedd.
Mae angen dy gymorth di ar Glim i ailadeiladu'r peiriant chwedlonol hwn.
Dy dasg di yw creu fersiwn syml o'r catapwlt a chynnal profion i ddarganfod:
Defnyddia dy sgiliau peirianyddol, dy ddychymyg a'th glyfrwch corachlyd er mwyn ail-greu'r dyluniad. Mae pob ymgais yn dod â Glim yn nes at achub Rhyd-y-Rhew!

Ar gyfer y gweithgaredd hwn bydd angen y canlynol arnoch:
RHYBUDD: Bydd yn ofalus wrth ddefnyddio siswrn a glud poeth, a hynny gydag oedolyn yn bresennol.
Yn gyntaf, mae angen i ni adeiladu ffrâm y catapwlt gan ddefnyddio 10 ffon lolipop a glud/tâp.

Nesaf, mae angen i ni greu'r colyn (pivot) y bydd braich y catapwlt yn troi arno.
PWYSIG: Gwna'n siŵr nad yw'r gwelltyn yfed yn sownd i unrhyw beth - mae angen iddo allu troelli'n rhydd o amgylch y ffon.

Nawr, byddwn yn creu'r fraich/lansiwr y catapwlt.

Bydd gennyt un ffon lolipop ar ôl, gobeithio. Gellir defnyddio Blu-tack i gysylltu honno â chefn y ffrâm er mwyn creu gorffwysfa ar gyfer pen y lansiwr sydd â'r fasged.

Rydym nawr yn barod i ddechrau rhoi prawf ar ein dyluniadau!
Mae'r dyluniad yn golygu y gallwn addasu'r catapwlt mewn 3 ffordd wahanol:
Allet ti ddarganfod y gosodiad gorau ar gyfer dy ddyluniad er mwyn lansio'r belen eira cyn belled â phosib?
Pan fyddi di'n fodlon â'r holl addasiadau, gallet eu clymu'n sownd â glud/tâp.
Beth am gynnal cystadleuaeth gyda dy ffrindiau neu dy deulu? Neu, efallai hoffet wneud addasiadau i'r dyluniad, y deunyddiau neu i faint y catapwlt.
Mae'r cyfarwyddiadau a'r dyluniad i'r gweithgaredd hwn yn fersiwn wedi'i haddasu o'r gwreiddiol ar y wefan Frugal Fun for Boys and Girls.
Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhai a helpodd i ddylunio a phrofi'r addasiadau - cawsom ni dipyn o sbri!

Deep in the enchanted snows of Frostmere Hollow, where icicles hum with ancient magic and snowflakes whisper forgotten runes, lives a goblin named Glim - the Winter Engineer.
Glim isn't like the other goblins who spend their days sledding and sipping pine-needle punch. He's a tinkerer, a builder, a dreamer.
But this winter, disaster struck.
The Snow Wyrm of the North has awoken from its icy slumber. With each breath, it freezes the village's festive supplies—gifts, lanterns, even the pudding scrolls meant for the Solstice Feast. Glim tried everything: enchanted mittens, sled-mounted decoys, even a snow covered pit-trap. Nothing worked.
Now, Glim needs your help.
Glim has raided his ancestors' archives in search of a solution. Deep within a dusty tome bound in frostbitten leather, he uncovered a faded blueprint—an ancient design for a snowball catapult once used in the Great Snow Siege.
The structure is clear. The instructions are intact. But the most crucial details - the measurements - have vanished with time.
Glim needs you to help rebuild this legendary machine.
Your task is to create a prototype catapult and test:
Use your engineering skills, imagination, and goblin flair to bring the design back to life. Every test brings Glim closer to saving Frostmere!

For this activity you will need the following:
WARNING: Please use scissors and hot glue safely under adult supervision.
We first need to build the Catapult frame using 10 lollypop sticks with glue/tape.

Next, we need to create the pivot point for our catapult arm to rotate on.
IMPORTANT: Make sure the drinking straw section is not stuck to anything - it needs to spin freely around the stick.

Now, we shall create the catapult arm/launcher.

Hopefully, you have one remaining lollypop stick. This can be stuck onto the back of the frame with Blu Blu-tack to create a rest stop for the basket end of the launcher.

We are now ready to start testing our designs!
This design allows us to make 3 different adjustments:
Can you work out the best settings for your design to get maximum distance on your launches?
Once you are happy with all the positions, feel free to make the attachments more permanent with glue/tape.
Perhaps you could have a competition with friends or family. Alternatively, you may wish to make changes to the design, materials and/or size.
The instructions and design used in this activity are a modified version of one on the Frugal Fun for Boys and Girls website.
I'd also like to thank those involved in helping with designing and testing the modifications for this - It was fun!